Er gwaetha diddordeb gan glwb pêl-droed West Ham, mae Ki Sung-yueng wedi dweud ei fod am aros gydag Abertawe.
Mae’r chwaraewr wedi dweud nad yw’n credu bod West Ham “yn well” na’r Elyrch, a gan fod y ddau glwb yn brwydro i aros yn y bencampwriaeth, mae am aros â’i “gyfeillion yn y tîm”.
“Dw i eisoes wedi dweud fy mod yn canolbwyntio ar oroesi’r gynghrair, ac rydym ni’n dechrau chwarae’n well,” meddai yn sgil buddugoliaeth 3-1 erbyn Arsenal nos Fawrth (Ionawr 30).
“Dw i eisiau bod fan hyn ac os ydy Abertawe eisiau i mi aros fan hyn, gallaf eu helpu i aros yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae’n gyfnod anodd, ond dw i ddim yn credu fy mod yn mynd i adael. Dw i ddim angen gadael.”
Yr Elyrch yn esgyn
Yn dilyn buddugoliaeth Abertawe yn erbyn y Gunners mae’r clwb wedi allan o safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf ers Tachwedd 4.
Ers penodiad Carlos Carvahal yn Rheolwr ym mis Rhagfyr, mae’r Elyrch wedi ennill 10 pwynt o’r 15 y gallan nhw fod wedi ennill.