Abertawe 3–1 Arsenal
Cododd Abertawe allan o safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Arsenal ar y Liberty nos Fawrth.
Mae adfywiad diweddar yr Elyrch o dan reolaeth Carlos Carvalhal yn parhau diolch i goliau Sam Clucas (2) a Jordan Ayew.
Rhoddodd Nacho Monreal yr ymwelwyr o Lundain ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl wedi pas dda Mesut Ozil.
Roedd hi’n gyfartal o fewn munud serch hynny diolch i Clucas ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Manteisiodd Ayew ar gamgymeriad gôl-geidwad Arsenal, Petr Cech, i roi’r tîm cartref ar y blaen toc wedi’r awr cyn i Clucas rwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe, nid yn unig oddi ar waelod y tabl, ond allan o safleoedd y gwymp ac i’r ail safle ar bymtheg.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Olsson, Dyer (Carroll 83’), Fer, Ki Sung-yueng, Clucas (Routledge 90+2’), Ayew (Bony 88’)
Goliau: Clucas 34’, 86’ Ayew 61’
.
Arsenal
Tîm: Cech, Bellarin, Koscielny, Mustafi, Monreal, Ramsey, El Neny (Mkhitaryan 60’), Xhaka, Ozil, Lacazette, Iwobi (Giroud 76’)
Gôl: Monreal 33’
Cardiau Melyn: El Neny 54’, Bellarin 69’, Ozil 75’
.
Torf: 20,819