Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Roque Mesa wedi ymuno â Sevilla ar fenthyg, ddiwrnod ar ôl i reolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal wrthod trafod ei ddyfodol.

Prin fu cyfleoedd y Sbaenwr yng nghrys Abertawe ers iddo symud o Las Palmas am £11 miliwn haf diwethaf.

Mae wedi ymddangos mewn 16 o gemau y tymor hwn.

Dydy e ddim wedi chwarae ers y fuddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Wolves ar Ionawr 17, a dyw e ddim wedi ymddangos yn Uwch Gynghrair Lloegr ers iddo gael ei dynnu oddi ar y cae ar yr egwyl yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Watford, sef gêm gyntaf y rheolwr wrth y llyw.

Sevilla

Mae Roque Mesa yn ymuno â Sevilla am weddill y tymor, a’r tîm yn chweched yn La Liga.

Byddan nhw’n herio Leganes yn y Copa del Rey nos Fercher, cyn teithio i Eibar yng Ngwlad y Basg ar gyfer gêm gynghrair ddydd Sadwrn.

Bydd y trosglwyddiad hefyd yn gyfle i Roque Mesa brofi gwefr Cynghrair y Pencampwyr, wrth i’w dîm herio Man U dros ddau gymal yn rownd yr 16 olaf. Mae’r cymal cyntaf yn Sbaen ar Chwefror 21, a’r ail gymal yn Old Trafford ar Fawrth 13.