Casnewydd 1–1 Tottenham Hotspur
Llwyddodd Casnewydd i sicrhau gêm ail chwarae yn erbyn Tottenham yn Wembley ar ôl gêm gyfartal ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA ar Rodney Parade nos Sadwrn.
Daeth yr Alltudion o fewn wyth munud i hawlio buddugoliaeth enwog gyda gôl hanner cyntaf Padraig Amond ond achubodd Harry Kane beth o embaras Spurs gyda gôl hwyr.
Wedi hanner cyntaf da fe beniodd Amond y Cymry ar y blaen o groesiad cywir Robbie Willmott saith munud cyn yr egwyl.
Roedd Spurs yn well wedi’r egwyl a gwastraffodd Kane gyfle da i’w penio’n gyfartal toc cyn yr awr. Gwnaeth Joe Day arbediad da i atal Son Heung-min hefyd.
Fe ddaeth y gôl yn y diwedd wyth munud o ddiwedd y naw deg wrth i Kane rwydo wedi sodliad Son ar draws ceg y gôl.
Bydd rhaid i’r ddau dîm ail chwarae yn stadiwm cenedlaethol Lloegr mewn wythnos a hanner yn awr, gêm a fydd yn siŵr o helpu’r clwb yn arianol.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Pipe, White, Demetriou, Butler, Willmott, Tozer, Labadie (Dolan 84’), Bennett, Nouble, Amond (McCoulsky 74’)
Gôl: Amond 38’
Cerdyn Melyn: Labadie 32’
.
Tottenham Hotspur
Tîm: Vorm, Foyth, Dier, Vertonghen, Wanyama, Trippier, Sissoko, Dembele (Davies 81’), Walker-Peters (Son Heung-min 45’), Llorente (Alli 66’)
Gôl: Kane 82’
Cerdyn Melyn: Foyth 87’
.
Torf: 9,836