Notts County 1–1 Abertawe
Vydd yn rhaid i Abertawe ail chwarae yn erbyn Notts County ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA wedi iddynt gael gêm gyfartal oddi cartref brynhawn Sadwrn.
Gôl yr un oedd hi ar Meadow Lane a bydd yn rhaid i’r Elyrch groesawu Pïodi’r Liberty i setlo pethau mewn wythnos a hanner.
Aeth yr Elyrch ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf gydag ergyd gadarn Luciano Narsingh.
Ac er i’r ymwelwyr o Gymru barhau i reoli’r meddiant yn yr ail hanner hefyd fe darodd Notts County nôl gyda gôl Jon Stead o groesiad Jorge Grant toc wedi’r awr.
.
Notts County
Tîm: Colin, Hunt, Duffy, Brisley, Dickinson, Grant, Husin (Smith 90’), Hewitt, Hawkridge, Ameobi (Alessandra 84’), Stead
Gôl: Sted 62’
Cerdyn Melyn: Grant 84’
.
Abertawe
Tîm: Nordfeldt, van der Hoorn, Bartley, Mawson, Roberts, Fer (Clucas 63’), Renato Sanches (Ki Sung-yueng 32’), Carroll, Narsingh, Bony, Abraham (Ayew 70’)
Gôl: Narsingh 45’
Cardiau Melyn: Renato Sanches 22’, Nordfelt 55’
.
Torf: 9,802