Wrecsam 2–2 Tranmere
Daeth torf enfawr i’r Cae Ras i wylio gêm gyfartal rhwng y Dreigiau a Tranmere yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond deg munud, Ritchie Sutton yn sgorio wedi cic gornel.
Dau funud yn unig a barodd hi felly cyn i Scott Quigley unioni pethau i’r tîm cartref.
Ac roedd Wrecsam ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach diolch i gic o’r smotyn Chris Holroyd wedi trosedd ar Shaun Pearson yn y cwrt.
Wedi’r tair gôl gynnar, bu rhaid aros tan funud olaf yr hanner cyn i beniad Andy Cook roi Tranmere nôl yn y gêm.
Gwledd o goliau i’r wyth mil a mwy o dorf yn yr hanner cyntaf felly ond dim rhagor o goliau wedi’r egwyl wrth iddi orffen yn gyfartal, canlyniad sydd yn cadw Wrecsam yn drydydd a Tranmere yn bumed yn y tabl.
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings (Raven 6’), Roberts, Rutherford (Mackreth 83’), Pearson, Smith, Wedgbury, Kelly, Boden, Quigley (Wright 90+1’)
Goliau: Quigley 12’, Holroyd [c.o.s.] 16’
Cerdyn Melyn: Holroyd 31’
.
Tranmere
Tîm: Taylor, Buxton, Ridehalgh, Norburn, McNulty, Sutton, Harris, Ginnelly (Clarke 74’), Norwood, Jennings, Cook
Goliau: Sutton 10’, Cook 45’
Cardiau Melyn: Norburn 43’, Cook 45’
.
Torf: 8,471