Fe adawodd un o hoelion wyth Uwch Gynghrair Cymru am her newydd ddechrau’r tymor, gan symud o glwb Y Drenewydd at Telford United yn Nghynghrair Cenedlaethol y Gogledd.
Nawr, mae cyn-capten y Drenewydd, Shane Sutton, yn dweud wrth golwg360 am y rhesymau tros symud, a sut mae pethau’n gweithio allan yn ei glwb newydd.
“Hyd yn hyn, mae hi wedi bod yn ardderchog,” meddai. “Mi ges i gyfnod da cyn i’r tymor ddechrau a llwyddo cael y fraint o gael fy apwyntio’n gapten yn Telford.
“Oedd hynny’n dipyn o syndod, i feddwl fy mod i’n newydd yma, a charfan dalentog gan y clwb.
“Roedd y rheolwr oedd wedi fy arwyddo, Rob Smith, wedi cael ei ddiswyddo cyn i’r tymor ddechrau,” meddai Shane Sutton wedyn. “Cafodd cyn chwaraewr Wolves a Chymru, Rob Edwards ei apwyntio’n rheolwr newydd, ac mae o wedi bod yn wych efo fi.
“Rydan ni dros hanner ffordd drwy’r tymor gyda gemau mewn llaw, mae dal yn bosib i ni gyrraedd y gemau ail gyfle.”
Llawn amser
Mae yna dipyn o bethau sy’n wahanol am Telford.
“Rydan ni’n ymarfer yn llawn amser, i ddechrau,” meddai Shane Sutton, “ac mae’r chwaraewyr eraill bron i gyd wedi dod o glybiau llawn amser. Un gwahaniaeth arall ydi bod pawb yn dipyn cyflymach a chryfach.
“Ond dw i’n siwr fod digonedd o chwaraewyr eraill o Uwch Gynghrair Cymru fasa’n gallu chwarae ar lefel uwch. Y gwahaniaeth arall ydi’r torfeydd – fel arfer, rydan ni’n chwarae o flaen dwy neu dair mil, ac mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar rywun i berfformio… ac mae’n sicr wedi fy helpu fi i wella fy ngêm.”
Roedd Shane Sutton wedi bod yn chwarae’n gyson i’r Drenewydd am gyfnod o ddeng mlynedd ar ôl cael ei ryddhau gan yr Amwythig, ond yn Nhachwedd 2015 yn erbyn Y Bala, fe gafodd anaf difrifol i’w goes ac roedd allan am chwe mis.
“Roedd yn benderfyniad anodd i adael Y Drenewydd,” meddai, “ond ar ôl yr anaf, ro’n i wedi sylweddoli faint o fregus ydi gyrfa bêl-droed.
“Mi gymerais o leia’ hanner tymor i ffeindio fy nhraed eto ar ôl yr anaf. Ar yr amser pan dorrais fy nghoes, roedd Y Drenewydd ar dân, wedi gwneud yn dda yn Ewrop, ennill pump allan o’r wyth gêm gyntaf tymor 2015/16.
“Pan wnes ddychwelyd yn ôl i’r tîm roeddwn isio ni fod y nôl ar yn gorau ac yn Ewrop eto ond, oedd yn hynod o rwystredig i orffen yn y gwaelodion a cholli yn y gemau ail gyfle i Fangor.”
Edmygu un arall o fois Y Drenewydd
Yn hanu o Dref y Clawdd, mae Shane Sutton nawr yn teithio tuag awr bob diwrnod i ymarfer gyda Telford, ac mae ei ffrind a chyn-chwaraewr y Drenewydd, Jason Oswell, hefyd yn chwarae yn yr un gynghrair i Stockport County.
“Dw i ddim yn synnu pa mor dda mae Jason yn gwneud, y fo oedd yr ymosodwr gorau yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf, mae’n gallu sgorio bob math o goliau…
“Dw i wedi chwarae yn ei erbyn yn barod y tymor hwn,” meddai eto, “ac mi wnes i twystro fo sgorio hefyd… ond ar hyn o bryd fo ydy prif sgoriwr y gynghrair ac mae’n llond llaw.”