Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Mike Flynn wedi rhybuddio tîm Leeds fod prynhawn “anghyfforddus” o’u blaenau ar gae Rodney Parade ddydd Sul.
Mae’r tîm sy’n chweched yn y Bencampwriaeth yn teithio i Gymru ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr – ac maen nhw 53 o safleoedd yn uwch na’r Cymry yng nghynghreiriau Lloegr.
Dyw’r Cymry ddim wedi cyrraedd 32 olaf y gwpan ers bron i 40 mlynedd.
Ond dywedodd y rheolwr Mike Flynn am Leeds: “Fyddan nhw ddim yn gyfforddus yn Rodney Parade, gallwch chi fod yn sicr o hynny.
“Mae’r gic gyntaf yn gynharach [12 o’r gloch], fe fu’n rhaid iddyn nhw aros dros nos, ac maen nhw’n dod i stadiwm nad yw gystal ag y maen nhw wedi arfer â hi, gadewch i ni fod yn onest.”
Cyfarfod blaenorol y tymor hwn
Cyfarfu’r ddau dîm yng Nghwpan Carabao yn Elland Road yn gynharach y tymor hwn ar ôl trafferthion gyda chae Rodney Parade.
Y Saeson oedd yn fuddugol o 5-1 y noson honno, ar ôl i’r Cymry fynd ar y blaen.
Ond dywedodd Mike Flynn fod ei dîm “wedi creu llawer o gyfleoedd ac fe ddylen ni fod wedi sgorio mwy o goliau”.
Dyw Casnewydd ddim wedi cyrraedd y bedwaredd rownd ers 1978-79, ac fe ddywedodd Mike Flynn y byddai mynd ymhellach na hynny yn gymorth i sicrhau arian i ddatblygu cyfleusterau’r clwb.