Mae disgwyl i ras geffylau Grand National Cymru fynd yn ei blaen yng Nghas-gwent heddiw.
Roedd disgwyl iddi gael ei chynnal ar Ragfyr 27, ond fe fu’n rhaid ei gohirio yn sgil y tywydd.
Mae’r amodau’n wael o hyd heddiw a’r cae yn “drwm”, yn ôl y trefnwyr.
Fe fu’n rhaid gohirio’r ras nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi arwain at drafodaeth a ddylid newid dyddiad y ras.
Tra bod rhai o blaid ei symud, mae eraill yn dadlau bod ei chynnal yr adeg hon o’r flwyddyn yn addas oherwydd ei bod yn digwydd mewn da bryd cyn rasys Cheltenham a Grand National Aintree.
Manylion
Bydd y ras fawr yn cael ei chynnal am 2.05pm, a’r gantores Shân Cothi yn canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn hynny.
Mae tocynnau ar gael wrth y drws am £32 y pen.
Mae’r ras gyntaf am 12.30pm, ac fe fydd enillydd y brif ras yn ennill £150,000.