Mae lle i gredu mai tri ymgeisydd – Ryan Giggs, Craig Bellamy ac Osian Roberts – fydd yn cael eu cyfweld ar gyfer swydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n chwilio am olynydd i Chris Coleman, a gafodd ei benodi’n rheolwr ar Sunderland ym mis Tachwedd.
Fe adawodd ei swydd gyda Chymru ar ôl ychydig yn llai na chwe blynedd wrth y llyw.
Mae disgwyl i enw’r rheolwr newydd gael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis.
Y ceffylau blaen
Does gan yr un o’r tri cheffyl blaen brofiad o fod yn rheolwr, ac mae proffil rhyngwladol Ryan Giggs yn ei wneud yn ffefryn ymhlith y bwcis.
Roedd hefyd wedi cael profiad o hyfforddi gyda Man U o dan Louis van Gaal, cyn gadael y clwb yn 2016 pan gafodd Jose Mourinho ei benodi’n rheolwr.
Fe fyddai gwaith Osian Roberts yn is-reolwr o dan Chris Coleman a’i wybodaeth am y garfan yn ystod y cyfnod hwnnw’n ei osod o flaen y ddau arall, ar ôl helpu’r garfan i gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016.
Ond mae’r cyn-ymosodwr Craig Bellamy hefyd wedi datgan ei ddiddordeb yn y swydd, ac yntau’n gyfrifol am ddatblygu chwaraewyr iau Caerdydd o dan reolaeth Neil Warnock.
Mae Tony Pulis allan o’r ras erbyn hyn, ac yntau newydd gael ei benodi’n rheolwr ar Middlesbrough.