Abertawe 0–2 Tottenham Hotspur                                                         

Colli a oedd hanes Carlos Carvalhal yn ei gêm gartref gyntaf wrth y llyw yn Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Fawrth.

Rhoddodd Fernando Llorente Tottenham Hotspur ar y blaen yn gynnar ar y Liberty gyda gôl ddadleuol cyn i Dele Alli ddiogelu’r tri phwynt ym munudau olaf y gêm.

Llwyr reolodd yr ymwelwyr yr hanner cyntaf ac er eu bod yn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl roedd tipyn o lwc yn perthyn i’w gôl.

Peniodd Fernando Llorente i gefn y rhwyd o gic rydd Christian Eriksen a chafodd y gôl ei chaniatáu er bod cyn chwaraewr yr Elyrch yn camsefyll.

Roedd Abertawe’n well yn yr ail hanner ac fe fyddai Jordan Ayew wedi unioni’r sgôr oni bai am dacl eiliad olaf Victor Wanyama.

Daeth Mike van der Hoorn yn agos hefyd pan wyrodd ei beniad oddi ar Jan Vertonghen ac yn erbyn y postyn.

Wrth i’r tîm cartref  bwyso daeth ail gôl i Spurs yn y pen arall wedi gwrthymosodiad effeithiol.

Daeth Harry Kane o hyd i Dele Alli gyda phas hir gywir ac er i Lukasz Fabianski arbed cynnig gwreiddiol Alli fe wyrodd y bêl yn ôl oddi arno i do’r rhwyd.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Carlos Carvalhal ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel (Narsingh 53’), van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Olsson, Renato Sanches, Clucas, Carroll (Routledge 78’), Dyer (McBurnie 71’), Ayew

Cardiau Melyn: Olsson 10’, van der Hoorn 79’

.

Tottenham Hotspur

Tîm: Lloris, Trippier, Sanchez (Wanyama 59’), Vertonghen, Davies, Eriksen, Dier, Lamela (Sissoko 77’), Alli, Son Heung-min, Llorente (Kane 68’)

Goliau: Llorente 12’, Alli 89’

Cardiau Melyn: Sanches 31’, Lamela 64’

.

Torf: 20,615