“Does dim angen gwyrthiau” yw neges rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal.

Mae’r Elyrch ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae nhw wedi troi at yr hyfforddwr o Bortiwgal i geisio eu hachub.

Ond fe gafodd yntau ei ddiswyddo gan Sheffield Wednesday ar Noswyl Nadolig, a’i dîm yn bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth.

Dywedodd wrth wefan y clwb: “Ar hyn o bryd, pe baech chi’n gofyn, efallai, i ryw 100 o bobol sy’n dilyn pêl-droed, byddan nhw’n dweud y bydd Abertawe’n gostwng.

“Dyna’r teimlad yn gyffredinol. Efallai y bydd rhai pobol yn dweud bod angen gwyrth arnon ni.

“Pan fo pethau yn nwylo dynion, nid gwyrth sydd ei angen arnoch chi.

“Mae yn ein dwylo ni, ac fe allwn ni lwyddo.”

‘Her anodd’

Ond mae Carlos Carvalhal yn cydnabod fod “her anodd” o’i flaen yn ei swydd newydd.

“Mi fydd yn her anodd. Ry’n ni’n gwybod y sefyllfa ry’n ni ynddi ar hyn o bryd, ond mi allwn ni ei gwneud hi.

“Mi fydd yn anodd ac fe fydd angen cefnogaeth pawb arnon ni.

“Fe wnawn ni geisio dangos ymroddiad cryf gennym ni a’r chwaraewyr ar y cae, ac fe fydd angen cryn gefnogaeth gan y dorf oherwydd gallan nhw wneud gwahaniaeth go iawn.”

Ond ychwanegodd nad yw’n “addo dim byd”.

Rheoli yn yr Uwch Gynghrair

Mae Carlos Carvalhal yn gwireddu breuddwyd o gael gweithio yn Uwch Gynghrair Lloegr, meddai.

“Ers amser hir, dw i wedi bod eisiau gweithio yn yr Uwch Gynghrair.

“Dw i wedi gweithio gyda chlybiau da – mae gyda fi brofiad o gystadlaethau Uefa gyda Besiktas, Braga a Sporting, a hyd yn oed pan ddechreuais i hyfforddi yn y drydedd adran, fe gyrhaeddon ni rownd derfynol y gwpan fel ein bod ni’n cyrraedd Ewrop.”