Barrow 1–1 Wrecsam
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Wrecsam deithio i Holker Street i wynebu Barrow yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Mawrth.
Peniodd Moussa Diarra Barrow ar y blaen o dafliad hir Dan Jones wedi dim ond dau funud.
Roedd Wrecsam yn gyfartal wedi 25 munud diolch i beniad Shaun Pearson o gic gornel ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Yn wir, felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar bwynt yr un.
O ganlyniad, maent yn llithro i’r pedwerydd safle yn y tabl gan i Macclesfield, Aldershot a Sutton i gyd ennill.
.
Barrow
Tîm: Dixon, Bignot, MacDonald, Makoma (Yussuf 76’), Diarra, Dunne, Barthram, Gomis, Holt (Diagne 76’), Harrison, Jones
Gôl: Diarra 2’
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Miller (Massanka 88’), Wedgbury, Pearson (Pearson 90+3’), Holroyd, Carrington, Rutherford, Kelly (Mackreth 85’), Roberts
Gôl: Pearson 25’
Cerdyn Melyn: Wedgbury 90+3’
.
Torf: 1,648