Wycombe 2–0 Casnewydd                                                             

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ymweld ag Adams Park i herio Wycombe yn yr Ail Adran brynhawn Mawrth.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr pan rwydodd Nathan Tyson yn dilyn gwaith creu Luke O’Nien ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Dyblwyd y fantais gan gyn chwaraewr y Barri ac Abertawe, “Y Bwystfil”, Adebayo Akinfenwa, ddeuddeg munud o’r diwedd.

Gorffennodd Casnewydd y gêm gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn hwyr i Joss Labadie.

Mae’r Alltudion yn codi un lle i’r degfed safle yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y golled gan i Swindon gael cweir gan y tîm ar y brig, Luton.

.

Wycombe

Tîm: Brown, Gape, Coelho Jombati, Scarr, Jacobson, Saunders, O’Nien, Eze (Bloomfield 76’), Cowan-Hall (Freeman 90’), Akinfenwa, Tyson (Mackail-Smith 84’)

Goliau: Tyson 15’, Akinfenwa 78’

Cerdyn Melyn: Jacobson 69’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Demetriou, Tozer, White, Pipe (Reynolds 67’), Bennett (Willmott 64’), Labadie, Dolan, Butler, Nouble, McCoulsky (Amond 78’)

Cardiau Melyn: Demetriou 15’, McCoulsky 42’, Labadie 49’, 90’

Cardiau Coch: Labadie 90’

.

Torf: 4,629