Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Garry Monk ymhlith y ffefrynnau i gael ei benodi’n rheolwr nesa’r clwb.

Daw’r newyddion oriau’n unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo gan Middlesbrough yn y Bencampwriaeth.

Cafodd ei benodi ym mis Mehefin, ac fe enillodd ei dîm yn erbyn Sheffield Wednesday yn Hillsborough oriau’n unig cyn iddo golli ei swydd neithiwr.

Roedd Garry Monk yn rheolwr ar yr Elyrch rhwng 2014 a 2015 ac ers iddo gael ei ddiswyddo, fe fu hefyd yn rheolwr ar dîm Leeds.

Mewn datganiad, diolchodd Middlesbrough iddo am “ei waith caled a’i ymroddiad” ar ôl iddo arwain y clwb i’r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, dim ond triphwynt oddi ar y safleoedd ail gyfle.

Mae Abertawe’n chwilio am reolwr newydd yn dilyn diswyddo Paul Clement ganol yr wythnos ddiwethaf.

Slaven Bilic

Yn y cyfamser, mae cyn-reolwr West Ham, Slaven Bilic wedi dweud ei fod yn awyddus i gael “seibiant”.

Roedd yn un o’r enwau oedd yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr Abertawe.

Ond mae wedi ychwanegu ei enw at restr o reolwyr sydd wedi wfftio’r cyswllt – rhestr sy’n cynnwys Louis van Gaal, Ronald Koeman a Ryan Giggs.

Cafodd Slaven Bilic ei ddiswyddo fis diwethaf ar ôl dwy flynedd a hanner wrth y llyw yn West Ham.

Leon Britton

Wrth i’r dyfalu ynghylch y rheolwr parhaol nesaf barhau, mae Leon Britton wedi dweud ei fod yn disgwyl bod wrth y llyw ar gyfer taith yr Elyrch i Anfield i herio Lerpwl ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd ei benodi’n rheolwr dros dro ddechrau’r wythnos, ac roedd e wrth y llyw ar gyfer y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Dywedodd wrth y BBC neithiwr: “Ry’n ni’n barod i ymarfer ac i baratoi ar gyfer Lerpwl tan fy mod i’n cael gwybod yn wahanol.”

Mae e’n cael ei gynorthwyo ar hyn o bryd gan Cameron Toshack a Gary Richards, dau hyfforddwr y tîm dan 23.