Abertawe 1–1 Crystal Palace
Mae Abertawe’n aros ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Crystal Palace ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Luka Milivojevic yr ymwelwyr ar y blaen o’r smotyn cyn i Jordan Ayew achub pwynt i’r Elyrch yng ngêm gyntaf Leon Britton wrth y llyw fel rheolwr dros dro.
Di sgôr oedd yr hanner cyntaf ond roedd Abertawe’n teimlo y dylent fod wedi cael cic o’r smotyn yn dilyn trosedd Jeff Schlupp ar Luciano Narsingh.
Oes oedd hwnnw’n benderfyniad amhoblogaidd ar y Liberty, felly hefyd y gic o’r smotyn hallt a gafodd ei dyfarnu yn erbyn Federico Fernandez am lorio Ruben Loftus-Cheek toc cyn yr awr. Milivojevic a gymerodd y gic gan roi ei dîm ar y blaen o ddeuddeg llath.
Roedd yr Elyrch yn haeddu pwynt o leiaf a dyna’n union a gawsant yn y diwedd diolch i ergyd wych Ayew o ugain llath a mwy chwarter awr o’r diwedd.
Mae’r gêm gyfartal yn un i’w chroesawu wedi pum colled yn olynol ond nid yw’n ddigon i godi’r Cymry oddi ar waelod y tabl dros y Nadolig.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton (Rangel 80’), Fernandez, Mawson, Olsson, Clucas, Mesa (Fulton 89’, Carroll, Narsingh (Ayew 66’), Abraham, Dyer
Gôl: Ayew 77’
Cardiau Melyn: Fernandez 32’, Mesa 85’
.
Crystal Palace
Tîm: Speroni, Kelly, Tomkins, Dann, Schlupp, McArthur, Cabaye (Sako 76’), Milivojevic, Loftus-Cheek, Townsend (van Aanholt 85’), Zaha
Gôl: Milvojevic [c.o.s.] 59’
Cardiau Melyn: Zaha 34’, McArthur 51’, Milvojevic 62’
.
Torf: 20, 354