Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn mynnu o hyd na fydd y chwaraewr canol cae Renato Sanches yn dychwelyd yn gynnar i Bayern Munich.
Mae seren ifanc tîm Portiwgal ar fenthyg gyda’r Elyrch o dîm y Bundesliga tan ddiwedd y tymor, ond dyw e ddim wedi tanio eto wrth i’r tîm frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd adroddiadau yn y wasg yn ei famwlad nos Iau y gallai ddychwelyd i’r Almaen yn ystod y ffenest drosglwyddo fis nesaf.
Ond er i’r chwaraewr 20 oed gael ei adael allan o’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn West Brom a Man City, mae e’n dal i weithio’n galed ac yn ceisio ennill ei le yn ôl, meddai Paul Clement.
‘Dyw e ddim yn dychwelyd’
Ar drothwy gêm fawr yn erbyn Everton ar Barc Goodison nos Lun, mae Paul Clement wedi dweud unwaith eto nad oes cynlluniau ar y gweill i anfon Renato Sanches yn ei ôl i Bayern Munich.
“Dw i ddim wedi cael gohebiaeth benodol gan Bayern am sefyllfa bresennol Renato, ond dyw e ddim yn dychwelyd.
“Mae e wedi bod allan o’r ddwy garfan ddiwethaf, sy’n amlwg ddim yn sefyllfa dda iddo fe.
“Dyw e ddim yn hapus iawn, ond mae ei ymateb wrth ymarfer wedi bod yn dda iawn.
“Mae e wedi’i ysgogi ac yn gwybod beth sydd angen iddo fe ei wneud i ddychwelyd, nid yn unig i’r 18 ond i’r tîm hefyd.”
‘Dim gorfodaeth’
Eglurodd Paul Clement nad oes gorfodaeth ar yr Elyrch i’w gynnwys yn y tîm.
Roedd y tîm Almaenig yn awyddus i’w anfon allan ar fenthyg er mwyn rhoi amser iddo fe ar y cae.
Roedd wedi ymuno â nhw o Benfica y tymor cynt, ond dim ond chwe gêm ddechreuodd e y tymor diwethaf ar ôl serennu yn Ewro 2016, wrth i Bortiwgal guro Cymru i’w hanfon allan o’r gystadleuaeth.
Ac ers iddo symud i Abertawe, dyw e ddim wedi sgorio na chreu’r un gôl mewn 10 gêm.
‘Cadw ffydd’
Ychwanegodd Paul Clement: “Mae angen i ni ei gael e’n ôl i’r hyn mae e’n gallu ei wneud ond mae ei hyder yn amlwg yn isel.
“Roedd yn isel pan ddaeth e yma ac roedden ni wedi gobeithio y byddai wedi codi i lefel dda iawn.
“Mae wedi cymryd mwy o amser nag yr oedden ni wedi’i obeithio, ond all e ddim disgwyl cael ei ddewis o hyd os nad yw e’n perfformio ar y lefel [sydd ei hangen].
“Ond fe wnawn ni gadw ffydd gyda fe a dal i weithio gyda fe ar y cae ymarfer ac yn yr ystafell fideo.”