Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystyried adnewyddu strwythur y pyramid yng Nghymru.

Maen nhw wedi cytuno i argymhellion adroddiad tair blynedd gan is-bwyllgor yr Adolygiad Pyramid sy’n dweud y byddai newidiadau yn gwneud y gêm ddomestig “yn gryfach a chynaliadwy”.

Dyma’r hyn sydd wedi’i awgrymu:

  • Ail-strwythuro Pyramid Pêl-droed Domestig Cymru a’r strwythur rheoli
  • Cymdeithas Bêl-droed Cymru i redeg ail haen y Pyramid o 2019/2020
  • Cytuno ar ddiffiniad ar gyfer pob cam o’r Pyramid
  • Cytuno amserlen ar gyfer gweithredu
  • Bwrdd y Gêm Gymuned i adolygu Haen 4 ac is
  • Gweithgor yr Adolygiad Pyramid i barhau i ddiweddaru gydag unrhyw gynnydd
  • Cyfnod o ymgynghori gyda’r holl glybiau sy’n cael eu heffeithio.

Pwy sydd yn ‘Haen 1’?

Clybiau Aelodaeth Lawn sydd wedi sicrhau trwydded Haen 1 sy’n chwarae ar lefel y Gynghrair Genedlaethol, gyda’r uchelgais o chwarae pêl-droed Ewropeaidd. Mae’r Gynghrair yn cael ei gweinyddu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

A ‘Haen 2’?

Clybiau Aelodaeth Lawn sydd wedi sicrhau trwydded Haen 2 Rheoliadau Cae sy’n chwarae ar lefel y Gynghrair Genedlaethol, gyda’r uchelgais o chwarae ar Haen 1 y Pyramid.

Beth am ‘Haen 3’?

Clybiau Aelodaeth Lawn sydd wedi sicrhau trwydded Haen 3 Rheoliadau Cae a chwarae ar lefel Cynghrair Rhanbarthol, gyda’r uchelgais o chwarae o fewn y System Genedlaethol. Mae’r Gynghrair yn cael ei gweinyddu gan Gynghrair Gysylltiedig Uniongyrchol, ar ran CBDC.

Bydd strwythur a meini prawf Haen 4 ac is yn cael eu trafod gan Fwrdd Gêm Gymunedol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’n bosib mai ’Cymru Alliance a Chynghrair y De fydd yn cael eu heffetihio fwyaf, ac fe allai hyn gael effaith ar gynghrair y canolbarth. Y gred ydi y byddai dwy gynghrair newydd yn dod i fodolaeth sef’ Pencampwriaeth y Gogledd a Chanolbarth’ a ‘Phencampwriaeth y Chanolbarth a’r De’.

Pe bai hyn yn digwydd basau’r Gymdeithas bêl droed yn cymryd rheolaeth o ail haen y gêm yng Nghymru, yn gyffelyb i sut maen nhw’n rheoli’r Uwch-gynghorwyr.

Y farn o Hwlffordd 

Yn ôl cadeirydd Clwb Pêl-droed Hwlffordd, mae’n fodlon gyda’r awgrymiadau.

“Rydan ni fel clwb yn croesawu’r syniadau.” meddai David Hughes wrth golwg360. “Dim ond sgyrsiau rydan wedi cael ac fe fyddan nhw’n parhau. Mae’r syniad o’r Gymdeithas yn rhedeg yr ail haen yn un da pe bai bod nhw yn helpu’r clybiau ddatblygu.

“Rydan ni yn eithaf unig yn Sir Benfro. Rwyf yn y gorffennol wedi beirniadu’r Uwchgynghrair , ond mae’r awgrymiadau hyn gobeithio mynd i wellhau pethe ledled Cymru. Mae’r clybiau yn yr Uwchgynghrair yn derbyn arian i redeg eu hacademi – mae angen i’r arian cael ei rhannu rhwng mwy o glybiau.

“Rydan ni fel clwb yn barod i roi ein gwahaniaethau tu cefn i ni, mae dyfodol disglair i ni fel clwb,  gyda hogiau lleol da yn yr academi a phosib cae 3G yn dod i’r Dref, busau hyn yn rhoi hwb i’r ardal i fwy o bobl cymryd rhan mewn pél-droed.”

“Anodd”, meddai Llansannan

Mae rheolwr Clwb pêl droed Llansannan, Gari Evans, o’r farn bod y strwythur newydd am fod yn anodd  i nifer o glybiau.

“Mae rhai o’r gofynion yn annheg, mynd yn fawr neu foddi o be ddwi ‘n ei ddarllen, á ydy clybiau bach lleol yn barod i wario pres ar eisteddle caiff posib ddim ei ddefnyddio – ac oes lle mewn caeau rhai o’r clybiau i ehangu?  Mae angen llawer mwy o drafodaeth a  gwybodaeth arnom.” meddai