Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi datgelu’r hyn sy’n gwneud Pep Guardiola, yn ei farn e, yn un o reolwyr gorau’r byd.
Bydd y ddau yn dod wyneb yn wyneb nos Fercher wrth i’r Elyrch groesawu Man City i Gymru wrth iddyn nhw fynd am bymthegfed buddugoliaeth o’r bron, sy’n record yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn ôl Paul Clement, mae’r Catalanwr sy’n gyfrifol am lwyddiant y tîm sydd â mantais o 11 o bwyntiau dros eu cymdogion Man U ar frig y tabl yn “arloeswr”.
“Dw i’n credu ei fod e’n un o lond dwrn o’r goreuon. Yr hyn dw i’n ei hoffi amdano fey w fod ganddo fe gredoau ac arddull penodol iawn. Mae e wedi troi hynny’n fformiwla er mwyn ennill a dyw hynny ddim yn hawdd.”
Gyrfa
Mentrodd Pep Guardiola i fyd hyfforddi gyda Barcelona ‘B’ yn 2007 ac o’r fan honno, fe aeth ymlaen i reoli timau Barcelona a Bayern Munich cyn symud i Man City y tymor diwethaf.
Yn ôl Paul Clement, roedd arwyddion o’r dechrau’n deg y byddai’n rheolwr da ac yntau wedi ennill pedwar tlws yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.
“Hyd yn oed cyn i fi fod yn brif hyfforddwr, roedd gyda fi ddiddordeb ynddo fe fel rheolwr, yn enwedig wrth fynd o fod yn chwaraewr gyda Barcelona B i Barcelona a’r hyn wnaeth ei gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf yno.
“Fe gafodd e bedwar tlws yn ei flwyddyn gyntaf, ac mae hynny’n dangos y lefel yr oedd wedi gallu ei chyrraedd ac roedd ei allu ac ansawdd y chwaraewyr oedd ganddo fe’n gyfrifol am hynny.
“Mae gyda fi ddiddordeb mawr yn y ffordd mae e wedi gwneud pethau gyda’i dimau, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd gyda Barcelona.
“Yr hyn welwch chi yn ei ail flwyddyn gyda Man City yw fod ei dîm lawer mwy tebyg i Barcelona.”
Torri tir newydd
Yn ôl Paul Clement, mae Pep Guardiola wedi torri tir newydd fel rheolwr ac mae modd ei gymharu ag un o fawrion y byd pêl-droed, Arrigo Sacchi oedd yn rheolwr ar AC Milan rhwng 1987 a 1991 ac eto yn 1996-97 ac ar dîm cenedlaethol yr Eidal rhwng 1991 a 1996.
“Dw i’n credu bod yna rai hyfforddwyr dros y degawdau yn y byd pêl-droed sydd wedi torri tir newydd ac wedi bod yn arloesol.
“Roedd [Arrigo Sacchi] yn arloeswr go iawn yn nhermau’r hyn roedd e’n gwneud gyda’r 4-4-2, gan roi pwysau ar dimau ac fe enillodd e Gwpan Ewrop sawl gwaith.
“I fi, mae Guardiola yn enghraifft arall o arloeswr go iawn. Mae’r hyn wnaeth e gyda phêl-droed sy’n seiliedig ar feddiant yn Barcelona, pwyso’n uchel, mae e’n arweinydd go iawn yn oes newydd pêl-droed.
“Doedd y ffaith ei fod e wedi mynd o Sbaen i’r Almaen a’r ffaith nad oedden nhw [Bayern Munich] wedi gallu mynd yr holl ffordd yng Nghynghrair y Pencampwyr – gan wthio’n galed am y tair blynedd roedd e yno – ddim wedi gallu cuddio’r ffaith ei fod e wedi newid pêl-droed Almaenig.
“Fe gafodd e dri thlws y gynghrair, fe wnaeth e chwyldroi’r arddull yn llwyr ac wedyn fe ddaeth e i Loegr.
“Roedd llawer o bobol yn amau a fyddai’n gallu dod â’r math yna o bêl-droed i mewn i natur gyflym a dwys yr Uwch Gynghrair, ond mae e’n dangos ar hyn o bryd bod hynny’n llwyddo yma hefyd.
“Mae gyda fi dipyn o barch iddo fe.”