Mae un o feicwyr proffesiynol adnabyddus Cymru yn edrych am gytundeb newydd ar gyfer 2018.
Mae Gruff Lewis wedi cael blwyddyn i’w chofio gyda genedigaeth ei fab, dyweddïo gyda’i darpar wraig ac adleoli i Ogledd Cymru, ond ar ôl dod i gytundeb gyda thîm elit arall i gael rasio’n llawn amser yn rasys Prydain cafodd newyddion drwg ar ddechrau’r mis bod y tîm yn gorffen.
Adeiladu ar lwyddiant
Ar ôl dwy flynedd gyda Thîm UCI Madison Genesis a oedd yn cynnwys nifer o bwyntiau UCI ac ail yn y Cicle Classic, a gwisgo crys blaenllaw beiciwr Prydain yn y Tour of Yorkshire yn 2016, oedd Gruff yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant yn 2017.
“Mi wnes i rasio ychydig o rasys Crits, gorffen yn y nawfed safle yn rownd un o gyfres y Tour a gorffen yn deuddegfed ym Mhencampwriaeth crit Prydain, felly doedd hi ddim yn flwyddyn rhy ddrwg,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n 30, ac yn fy marn i, gyda fy mlynyddoedd gorau o fy mlaen yn y byd seiclo, ac rwyf yn gobeithio bydd timau Elit a noddwyr yn cael gwybod am fy sefyllfa a chysylltu â fi.”
Gyda Gemau’r Gymanwlad yn dechrau ym mis Ebrill 2018 yn Awstralia, mae Gruff Lewis yn gobeithio y bydd ei sefyllfa wedi’i datrys cyn gynted â phosib.