Mae Chris Coleman yn hyderus bod y tîm fydd yn wynebu Ffrainc heno yn gwneud eu “gorau glas”, er gwaethaf absenoldeb rhai o’r prif chwaraewyr.

Ymysg y chwaraewyr na fydd ar y cae ym Mharis heno mae Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Emyr Huws, Jonny Williams a Lloyd Isgrove.

Ond er gwaethaf hynny, mae Rheolwr tîm Pêl-droed Cymru yn dweud y bydd yn ymroi’n llwyr i’r gêm gyfeillgar yn Stade de France gan addo “busnes yn ôl yr arfer”.

“Dim ond un ffordd sydd, o weithio gyda [chwaraewyr Cymru],” meddai Chris Coleman.“ Baswn i ddim yn meiddio dal yn ôl gan eu bod nhw’n haeddu popeth.

“Gyda phêl-droed ar y lefel yma, mae’n rhaid i chi wneud eich gorau glas … Mae gennyf yr un ffocws ac awydd i wneud yn siŵr ein bod yn gystadleuol fel cenedl – dydy hynna ddim wedi newid.”

Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu ar BBC 1 Cymru o 7.30yh ymlaen. Bydd y gêm yn dechrau am 8.00yh.

Carfan Cymru:

Hennessey, Ward, Maxwell; B Davies, Chester, Taylor, Gunter, Lockyer, A Williams, Ampadu; Allen, Edwards, King, Ledley, Ramsey, Hedges, Evans, Watkins; Bradshaw, Vokes, Lawrence, Brooks, Woodburn.