Jamie Tolley
Barrow 3 Wrecsam 1 Adroddiad  Huw Ifor…

Cawn gychwyn yn bositif gan longyfarch Mark Creighton (Yr Anghenfil) a’i gariad ar enedigaeth eu plentyn cyntaf nos Wener.

Yn anffodus i Wrecsam doedd Yr Anghenfil ddim yn chwarae yn erbyn Barrow ddydd Sadwrn ac wedi tymor arbennig Knight Percival, mae’n edrych fel petai cryfder Yr Anghenfil sydd wedi rhoi rhyddid iddo chwarae cystal.

Bu Chris Maxwell yn ddigon hy i gymryd yn ganiataol ei fod am chwarae yn erbyn Barrow ac o’r herwydd fe fu rhaid iddo aros adref yn Wrecsam. Mae’n ymddangos nad yw Saunders yn cymryd unrhyw lol gyda’r chwaraewyr a bod yn deg.

Cafodd Mayebi (y golwr ailddewis) gyfle i chwarae eto ar ôl ei berfformiad penigamp ddydd Sadwrn diwethaf. Ond cychwynnodd yn or-hyderus gan wneud smonach o un cliriad ac ar ôl hynny fe blymiodd ei hyder. Roedd ei gêm yn llawn camgymeriadau a doedd  ei amddiffynwyr yn ymddiried dim ynddo.

Roedd problemau anferth gan Barrow hefyd. Tri eilydd oedd ganddynt ac un o’r rheini wedi ei arwyddo am un ar ddeg fore Sadwrn.

Roedd yr hanner cyntaf yn wael iawn gyda un llygedyn o olau, trawodd Ashton bel odidog i lawr yr ystlys. Curodd Speight Kelvin Lomax a tharo’r bel i gefn y rhwyd  o ddeg llath.

Cychwynnodd Wrecsam lawer gwell yn yr ail hanner ond roeddent yn wastraffus gyda Wright, Tolley a Knight Percival yn methu cyfleoedd. Arbedodd golwr Barrow yn wych o ergydiad Harris. Fel sy’n digwydd yn aml yn y fath sefyllfa fe ymosododd Barrow yn syth a sgorio gyda pheniad gan hen chwaraewr Wrecsam, Phil Bolland. Doedd neb yn ei farcio.

Wedi 65 munud ni sylwodd y dyfarnwr fod Knight Percival wedi cael ei droseddu, symudodd y tîm cartref y bêl i’r ystlys a chroeswyd i’r canol. Gwnaeth Mayebi smonach llwyr yn ceisio hawlio’r bêl ac fe sgoriodd Adam Boyes.

Roedd gan Bolland ran allweddol i’w chwarae yn y gêm unwaith eto  4 munud yn ddiweddarach wrth iddo syrthio ychydig yn ddramatig wedi cyffyrddiad gan Danny Wright. Cerdyn coch oedd y canlyniad.

Roedd y gêm yn agored iawn bellach a bron i Chis Westwood sgorio gyda’i ben yn ei gêm gyntaf i Wrecsam. Yn anffodus fe sgoriodd Boyes ei seithfed o’r tymor ar ôl 86 munud yn dilyn arbediad gwan gan Mayebi.

Roedd yn rhaid i golled ddod yn y pen draw, ac mae’n bwysig nawr gweld sut y bydd Saunders a’r chwaraewyr yn ymateb yn erbyn Efrog ddydd Sadwrn. Tybiwn y bydd Creighton a Maxwell yn dychwelyd.

Ail lygedyn bach o olau ar brynhawn gwlyb o Fedi oedd nad yw yr un tîm wedi curo Barrow  gartref ac wedi mynd ymlaen i gael dyrchafiad o’r gynghrair . Gobeithio y bydd Wrecsam yn cadw’r record yma gan gael dyrchafiad eleni.