Y Seintiau Newydd 3 – 0 Castell Nedd
Brwydr fawr y noson oedd honno rhwng dau dîm llawn amser y gynghrair ar Neuadd y Parc.
Y Seintiau Newydd oedd yn fuddugol a hynny’n gyfforddus.
Roedd y Seintiau’n arwain wedi dim ond 7 munud o’r gêm wedi ergyd nerthol yr amddiffynnwr canol, Steve Evans o ddeunaw llath.
Digwyddiad tyngedfennol y noson oedd cerdyn coch Kai Edwards o Gastell Nedd ar ôl hanner awr o’r gêm. Cafodd Edwards ei yrru o’r maes am dacl hyll ar Craig Jones.
Wedi’r hanner, sgoriodd y gŵr o Seland Newydd Greg Draper ei ail gôl mewn dwy gêm gan roi ei dîm ddwy ar y blaen wedi 54 munud.
Alex Darlington rwydodd y drydedd i’r Seintiau i selio’r fuddugoliaeth gydag ugain munud yn weddill.
Mae’r canlyniad yn golygu bod y Seintiau’n codi uwchben Castell Nedd i’r pedwerydd safle yn y Gynghrair.
Tref y Bala 2 – 0 Tref Port Talbot
Mae dechrau gwych Y Bala i’r tymor yn parhau, ac maent yn aros ar frig y gynghrair ar ôl maeddu Port Talbot neithiwr.
Chris Mason oedd yr arwr i’r Bala, yn rhwydo’r ddwy i’w dîm – y gyntaf wedi 16 munud a’r ail wedi 63.
Bydd Y Bala’n gobeithio cynnal eu rhediad da oddi-cartref i Brestatyn ddydd Sadwrn.
Airbus UK Brychdyn 2 – 4 Dinas Bangor
Mae Bangor wedi codi i’r pedwerydd safle yn y gynghrair wedi buddugoliaeth oddi-cartref ym Mrychdyn.
Er hynny, Airbus aeth ar y blaen wedi 15 munud o’r gêm wrth i golwg Bangor, Lee Idzi ollwng cic gornel i’w rwyd ei hun.
Llwyddodd Idzi i arbed cic o’r smotyn gan Ian Sheridan wedi hynny gan atal Airbus rhag mynd dwy ar y blaen, cyn i Fangos ddod yn gyfartal o beniad Chris Jones wedi 35 munud.
O fewn munud roedd Airbus yn ôl ar y blaen diolch i Ian Sheridan, ond roedd y sgôr yn gyfartal eto eiliadau cyn yr hanner wrth i’r amddiffynnwr Shaun Pejic rwydo.
Bangor reolodd yr ail hanner a daeth y fuddugoliaeth diolch i ddwy gôl mewn munud i’w gilydd – ail i Jones a yna Alan Bull wedi 69 munud.
Caerfyrddin 0 – 3 Llanelli
Llanelli ddaeth i’r brig yng ngêm ddarbi’r gorllewin yn erbyn Caerfyrddin.
Mae dynion Tomi Morgan ar waelod y gynghrair wedi’r golled neithiwr, a bydd y rheolwr yn siomedig ar ôl dwy golled drom mewn 4 diwrnod.
Tair gôl yn yr hanner cyntaf seliodd ffawd Caerfyrddin – Rhys Griffiths, Craig Moses a Chad Bond yn rhwydo.
Bydd y fuddugoliaeth yn codi rhywfaint ar galon rheolwr Llanelli, Andy Legg, ar ôl y siom o golli’n erbyn y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn.
Y Drenewydd 1 – 2 Tref Prestatyn
Y Drenewydd sydd nesaf i Gaerfyrddin ar y gwaelod ar ôl colled arall yn erbyn Prestatyn ar Barc Latham.
Roedd yr ymwelwyr ddwy ar y blaen erbyn yr hanner diolch i Paul O’Neill a Steve Rogers.
Gôl gysur yn unig oedd honno i Zac Evans naw munud o’r diwedd.