Owain Schiavone sy’n amlinellu rhai o’r brwydrau fydd yn allweddol yn Wembley heno…
Mae’r cyffro ar fin cyrraedd uchafbwynt, a gêm fwyaf unrhyw dîm pêl-droed Cymreig ger ein bron. Heno, bydd dynion Gary Speed yn herio Lloegr yn Wembley a hynny gyda hyder o’r newydd yn dilyn buddugoliaeth hir ddisgwyliedig ond gampus yn erbyn Montenegro nos Wener.
Roedd y gêm gartref yn erbyn y Saeson yn siom i ddweud y lleiaf, a’r Cymry’n methu â chodi i’r achlysur – ar y cae, nac yn y dorf. Y gofid yw mai tebyg fydd y canlyniad heno, ac mae’r pen yn dweud mai buddugoliaeth gyfforddus i’r Saeson sydd yn ein disgwyl, yn enwedig ar ôl iddyn nhw roi cweir i Fwlgaria nos Wener.
Er hynny, mae’r galon yn mynnu anghytuno, ac efallai bod sawl rheswm da am hynny. Dyma rai awgrymiadau o ble bydd y gêm yn debygol o gael ei hennill a’i cholli.
Wayne v Wayne
Ddim mor syml â brwydr benben efallai, ond yn sicr bydd rhaid i Wayne Cymru, y golwr fod ar ei orau i atal Rooney a’i gyfeillion rhag sgorio heno. Mae Hennessey wedi bod yn chwarae’n dda i’w glwb, Wolves, sydd ar rediad da ac roedd yn soled nos Wener – doedd dim llawer y galla’i wneud am y gôl.
Mae Wayne Rooney ar dân ar hyn o bryd i’w glwb, ac fe sgoriodd ddwy ym muddugoliaeth y Saeson ym Mwlgaria. Fe fydd yn beryg bywyd heno ond mae cyfrifoldeb gan ei amddiffyn i’w warchod hefyd.
Pa James Collins fydd yn chwarae yn Wembley?
Doedd Collins ddim yn y tîm nos Wener oherwydd gwaharddiad, ond mae ar gael ar gyfer y gêm heno. Er bod Darcy Blake o Gaerdydd wedi gwneud gwaith da yng nghanol yr amddiffyn, mae’n debygol y bydd Speed yn penderfynu mai profiad amddiffynnwr pengoch Aston Villa yw’r opsiwn doeth heno.
Y cwestiwn nesaf yw pa James Collins fyddwn ni’n ei weld ar y cae. Ar y naill law, mae’r amddiffynnwr cydnerth sydd wedi bod yn ddewis cyntaf yn nhîm Aston Villa, ac sydd â’r potensial i fod yn un o amddiffynwyr canol gorau’r Uwch Gynghrair. Ar y llall mae’r Collins a gafodd gemau echrydus wrth i Gymru golli’n ddiweddar i Weriniaeth Iwerddon a Lloegr. Fe fydd yn allweddol heno yn erbyn Rooney a’i gyn cydchwaraewr yn Villa, Ashley Young.
Canol cae
Bydd y frwydr yng nghanol cae yn gwbl allweddol yn Wembley. Rheolodd Lloegr yr ardal yn Stadiwm y Mileniwm ond roedd Cymru’n llawer gwell gyda’r tri yn y canol yn erbyn Montenegro. Wedi dweud hynny, gall Joe Ledley chwarae’n well nac y gwnaeth nos Wener ac mae’n bryd iddo gael perfformiad da i Gymru.
Mae David Vaughan yn golled fawr i Gymru, efallai mwy na Bellamy hyd yn oed. Mae Vaughan yn chwaraewr prysur, sy’n gallu ennill y bêl, a’i chadw. Andrew Crofts ydy’r un amlwg i gymryd ei le yn y canol, tra bod Jack Collison yn opsiwn arall ar ôl gwella o’i salwch – mae’r ddau yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn i Vaughan.
Y peth pwysicaf i Gymru yng nghanol y cae ydy rhoi llwyfan da i Aaron Ramsey ddangos ei ddoniau creadigol. Doedd Ramsey ddim yn ffit yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr, ac efallai fod Speed wedi rhoi gormod o bwysau arno wrth ei wneud yn gapten. Erbyn hyn mae Ramsey’n chwarae’n rheolaidd i Arsenal (er mai siomedig fu eu dechrau hwy i’r tymor), ac mae’n tyfu yn ei rôl fel capten. Bydd Lloegr yn dechrau gyda thriawd o Barry, Lampard a Young yn y canol ac mae’n rhaid i Gymru gystadlu.
Bale v Smalling
Roedd Gareth Bale yn wych nos Wener. Ei gêm orau i Gymru hyd yn hyn mae’n siŵr, gan ddangos pa mor allweddol ydy asgellwr Spurs i obeithion Cymru. Os ydy Bale yn chwarae’n dda, mae Spurs yn chwarae’n dda ac mae’r un peth yn wir pan fo yn y crys coch.
Mae Smalling yn ifanc, ond yn amhrofiadol iawn fel cefnwr de. Mae wedi chwarae llond dwrn o gemau i Man Utd yn y safle eleni, ac fe enillodd ei gap cyntaf i Loegr yn erbyn Bwlgaria. Wedi dweud hynny, mae wedi herio Bale unwaith yn barod eleni wrth i Utd roi cweir i Spurs, a thawel iawn oedd y Cymro bryd hynny.
Bydd hyder y ddau yn uchel yn dilyn perfformiadau da nos Wener, ond os all Cymru gael digon o’r bêl i Bale fe all achosi difrod mawr i Loegr.
Oes gan Gymru obaith felly? Wrth gwrs bod gobaith – gêm bêl-droed ydy hi a gall unrhyw beth ddigwydd. Wedi dweud hynny, bydd yn her enfawr i dîm Gary Speed sicrhau unrhyw fath o ganlyniad heno a bydd cefnogwyr Cymru’n fodlon gydag unrhyw berfformiad sy’n well na hwnnw a gafwyd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.