Mae’r ymosodwr ifanc Joe Mason, gynt o glwb Plymouth Argyle, wedi ymuno â’r Adar Gleision ar gytundeb tair blynedd.
Mae’n aelod o garfan ryngwladol dan 21 Gweriniaeth Iwerddon, ac fe sgoriodd saith o goliau i’r ‘Pilgrims’ mewn 35 o gemau. Fe basiodd brofion meddygol dros y penwythnos.
Mason yw’r chweched chwaraewr i gael ei arwyddo gan glwb Dinas Caerdydd ers i olynydd Dave Jones, Malky Mackay, gyrraedd y brifddinas. Mae wedi mynd ati i ailadeiladu carfan sydd wedi colli 12 o chwaraewyr y tymor diwethaf – yn cynnwys Jay Bothroyd, Michael Chopra a Craig Bellamy.
Mae Robert Earnshaw, Don Cowie, Craig Conway, Andrew Taylor ac Aron Gunnarsson oll wedi ymuno.
Mae’r chwaraewr 20 oed wedi teithio i ymuno gyda charfan Caerdydd ar eu taith o Sbaen, lle maen nhw’n chwarae gemau cyfeillgar i baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Mae nifer o straeon hefyd yn cysylltu’r Clwb gyda Wayne Routledge, chwaraewr ganol cae Newcastle fu arfenthyg gyda QPR y tymor diwethaf. Mae adroddiadau fod Abertawe wedi gwneud cynnig amdano eisoes, ac mae gan Nottingham Forest ddiddordeb ynddo hefyd.
Gobaith am Bellamy?
Mae Robert Earnshaw wedi dweud ei fod yn dyheu am gael helpu ei glwb newydd i gael dyrchafiad i’r uwch-gynghrair y flwyddyn nesaf, ac mae’n credu y byddai cael Craig Bellamy yn ôl yng Nghaerdydd gydag ef yn rhoi siawns dda iddynt wneud hynny.
Mae Bellamy yn benderfynol o gael gadael Manchester City yr haf yma, ac yn mynnu mai Caerdydd yw ei glwb dewis cyntaf.
Mae Earnshaw yn cydnabod fod y cyflog uchel y byddai Bellamy yn ei hawlio yn gwneud cytundeb gyda Chaerdydd yn annhebygol, ond mae’n credu fod y record sydd gan y ddau wrth chwarae a’i gilydd i Gymru yn profi fod nhw’n gallu bod yn arf ymosodol peryglus.
Dim ond 13 o gemau mae’r ddau wedi eu cychwyn a’i gilydd i Gymru, ond maent wedi sgorio 12 gol rhyngddynt yn y gemau hynny.
Dywedodd Earnshaw wrth y Mirror: “Mi fyddwn i’n hoffi ei weld o yn ôl yma efo fi. Mae’r sefyllfa’n gymhleth, felly mae hi’n anodd dweud beth fydd yn digwydd, ac mae Craig yn amlwg yn ddigon da i fynd i chwarae yn unrhyw le, ond dwi’n gwybod y byddai o’n mwynhau cael bod yn ôl yma’n chwarae’r tymor nesaf.
“Mi fyddem ni’n gallu chwarae gydag ein gilydd. Dwi’m yn deall pobl sy’n dweud ein bod ni’n rhy debyg. Rydw i a Craig yn adnabod ein gilydd, yn deall ein gilydd ac yn mwynhau chwarae gyda’n gilydd, a dyna’i gyd sy’n bwysig.”
Mae Celtic yn annhebygol erbyn hyn o geisio denu Bellamy i’r Alban, ond mae adroddiadau eraill yn honni’r gall Aston Villa wneud cais amdano petai Stuart Downing yn ymadael am Lerpwl.