Huw Jenkins - i fod i siarad gyda Taylor
Mae’r dyfalu ynglŷn â dyfodol cefnwr chwith Abertawe, Neil Taylor, yn cynyddu wrth i adroddiadau awgrymu ei fod am siarad â Newcastle.

Ac, yn ôl adroddiadau heddiw, mae Abertawe eisoes yn chwilio am gefnwr newydd i lenwi esgidiau Taylor, gyda Stephen Crainey o Blackpool yn cael ei gysylltu â’r clwb.

Er bod Crainey, sy’n 29 oed , wedi cael cynnig cytundeb newydd gan dîm Ian Holloway, dyw e ddim wedi arwyddo dim eto.

Ond nid Abertawe yw’r unig dîm sy’n canlyn cefnwr rhyngwladol yr Alban – mae sôn bod Wigan a Nottingham Forest hefyd ar ei ôl.

Yn ôl o wyliau

Yn y cyfamser, fe ddaeth Taylor yn ôl o’i wyliau echdoe, ac roedd disgwyl iddo gwrdd â chadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, yn syth ar ôl cyrraedd Cymru.

Mae’n debyg ei fod hefyd yn bwriadu cynnal cyfarfod gyda Newcastle yn y dyddiau nesaf wedi i’r clwb wneud cynnig o tua £1miliwn amdano’r wythnos diwethaf.

Mae Jenkins wedi awgrymu mai aros yn Abertawe fydd hanes Taylor, ond yn ôl y sôn mae Brendan Rodgers yn anhapus bod y Cymro 22 oed yn awyddus i siarad â thîm arall.

“Yn amlwg rydym yn awyddus i’w gadw yma – rydym yn awyddus i gadw ein chwaraewyr gorau i gyd” meddai Jenkins wrth y South Wales Evening Post.

“Mae wedi bod ar wyliau felly doedd dim modd datrys unrhyw beth cyn hyn”.

Dim cadarnhad am Caulker

Yn y cyfamser mae Abertawe yn parhau i arwain y ras i arwyddo Steven Caulker o Tottenham Hotspur ar fenthyg am y tymor nesaf.

Bu’r amddiffynnwr addawol ar fenthyg gyda Bristol City llynedd, ond mae eu rheolwr Keith Millen wedi awgrymu ei fod ar ei ffordd i Dde Cymru.

“Ro’n i’n gwybod bod Tottenham yn awyddus iddo fynd ar fenthyg i dîm yn yr Uwch Gynghrair” meddai Millen.

“Ro’n i wastad yn teimlo y byddai tîm o’r uwch gynghrair yn mynd ar ei ôl ac mae’n ymddangos bod Abertawe wedi gwneud hynny.”

Does dim wedi’i gadarnhau eto ac mae Caulker gyda charfan tîm dan 21 Lloegr yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan 21 Ewrop yn Nenmarc ar hyn o bryd.