Gareth Warburton
Mae’r athletwr o Gaernarfon, Gareth Warburton, wedi’i ychwanegu at dîm Prydain a Gogledd Iwerddon sy’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Timau Ewrop dros y penwythnos.

Mae’r rhedwr 800m yn ymuno â thri Chymro arall sydd eisoes yn y garfan.

Dai Greene yw capten y tîm Prydeinig ac mae’n rhedeg yn y 400m dros y clwydi, tra bod Brett Morse yn taflu’r ddisgen a Christian Malcolm yn rhan o’r tîm cyfnewid.

Warburton – y cefndir

Roedd Warburton yn bedwerydd yn ffeinal yr 800m yng Ngemau’r Gymanwlad y llynedd.

Mae bellach yn llyfrgellydd yng Nghaerdydd ac yn rhedeg i glwb athletau Caerdydd.

Mae’n ymddangos bod perfformiad Warburton yn Grand Prix BMC Nike yn Watford ddydd Sadwrn wedi dal llygad y dewiswyr. Daeth y Cymro’n ail yn y ras 800m gydag amser o 1:47.74.

Mae pencampwriaethau Timau Ewrop yn cael eu cynnal yn Stockholm, Sweden, ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae ras yr 800m yn cael ei rhedeg am 3:21 brynhawn Sul.