Dabbt Wright
Mae Wrecsam wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr Danny Wright o Gaergrawnt.

Wright yw’r ail ymosodwr newydd i Wrecsam arwyddo wrth i Dean Saunders geisio llenwi’r bwlch mae ymadawiad Andy Mangan wedi’i adael yn y garfan.

Fe arwyddodd Jake Speight o Bradford yr wythnos diwethaf.

Mae Wright yn gyn chwaraewr gyda Histon, ond fe symudodd at eu cymdogion yng Nghaergrawnt llynedd.

Roedd ganddo ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb, sy’n golygu bod Wrecsam wedi gorfod talu rhywbeth am ei wasanaeth ond dyw’r swm ddim wedi’i ddatgelu gan y clwb.

Diwrnod prysur i Saunders

Wright yw’r ail chwaraewr newydd i Dean Saunders ei recriwtio o fewn 24 awr wedi iddo gadarnhau trosglwyddiad Chris Westwood o Wycombe ddoe.

“Dyma ran arall o’r jig-so wrth i ni geisio cryfhau’r ymosod ar gyfer y tymor nesaf,” meddai Saunders wrth gadarnhau’r newyddion am Danny Wright.

“Roedd ei record gyda Histon yn un da iawn a doedd ei record gyda thîm Caergrawnt, a gafodd dymor gwael llynedd, ddim yn ddrwg chwaith.”

Mae Wright yn chwe throedfedd a dwy fodfedd ac mae Saunders yn credu y gallai ei faint fod yn gaffaeliad i’r tîm.

“Yn sicr mae ei daldra’n rhoi dimensiwn arall i ni, ynghyd â’r chwaraewyr eraill sydd eisoes yn y garfan, bydd cystadleuaeth dda i ennill lle yn yr ymosod.”

Tocynnau tymor wedi gwerthu’n dda

Wrth i’r dyfalu ynglŷn â dyfodol ariannol y clwb barhau, mae peth newyddion da i Saunders a chefnogwyr Wrecsam wrth i’r clwb gyhoeddi’r nifer o docynnau tymor sydd wedi’u gwerthu hyd yn hyn.

Mae mwy na 1700 o’r tocynnau tymor wedi’u gwerthu wrth i gefnogwyr gymryd mantais o gynnig arbennig i’r rhai oedd yn prynu’r tocynnau’n gynnar.

“Mae cyrraedd y ffigwr yma mor fuan yn yr haf, gyda deufis tan ein gêm gyntaf, yn ffantastig” meddai rheolwr y Dreigiau. “Fedra’i ddim ond diolch i’r cefnogwyr am ddangos y fath ffydd ac ymrwymiad.”