Richard Webster (o wefan yr Undeb Rygbi)
Cymru 0 Seland Newydd 92
Fe gafodd chwaraewyr ifanc Cymru eu cweir waetha’ erioed wrth i’r Teirw Bach eu chwalu’n llwyr yn ail rownd Cwpan dan 20 y Byd.
Fe sgoriodd Seland Newydd gais yn y munud cyntaf a thri arall o fewn 20 munud wrth guro’r Cymry ym mhob agwedd ar y chwarae.
Yn union wedyn, fe ddywedodd hyfforddwr Cymru, Richard Webster, bod rhaid cael ymchwiliad i edrych o ddifri i weld pam ein bod gymaint ar ei hôl hi.
Cyn y gêm, roedd Cymru wedi siarad yn hyderus am eu gobeithion ond dim ond llond llaw o gyfleoedd a gawson nhw i ymosod ac roedden nhw’n colli’r bêl yn gyson.
Erbyn hanner amser, roedd hi’n 45-0 ac fe gafodd Seland Newydd gyfanswm o 14 cais.
Ymateb yr hyfforddwr
“Yn naturiol, roedd y bechgyn yn teimlo’n fflat ar ôl y chwiban ola’,” meddai Webster. “Wnaethon ni ddim dechrau o ddifri ac mae Seland Newydd yn dîm pwerus a fydd yn gallu chwalu llawer o dimau.
“Y pwyntiau positif yw ein bod yn y bencampwriaeth o hyd ac os gallwn ni ennill gyda phwynt bonws yn erbyn yr Eidal, fe allwn ni gyrraedd y pedwar ola’ o hyd.”
Roedd Cymru wedi curo’r Ariannin yn gyfforddus yn y rownd gynta’.