Castell-nedd
Mae Peter Nicholas wedi cymryd yr awenau â Chastell-nedd ar ôl i’r cyn-reolwr, Andy Dyer, adael y Gnoll.

Mae Dyer yn gadael ynghyd a’i gynorthwy-ydd Ray Pennock a’r hyfforddwr Simon Dyer.

Dwedodd y clwb bod cyhoeddiad ynglŷn â strwythur rheoli’r clwb i ddod, ond bod Peter Nicholas yn cymryd rheolaeth am y tro.

Mae Peter Nicholas wedi rheoli’r Barri a Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru, ac mae wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Castell-nedd ers dwy flynedd.

Roedd Andy Dyer wedi bod wrth y llyw yng Nghastell-nedd ers iddyn nhw chwarae dan enw Sgiwen Athletig yn yr isadrannau.

Ar ôl i Sgiwen Athletig uno gyda Chastell-nedd yn 2005 fe arweiniodd y clwb i frig y tabl y flwyddyn ganlynol.

Ond ni chafodd Castell-nedd ddyrchafiad oherwydd safon eu maes. Y flwyddyn  ganlynol fe enillodd Castell-nedd ddyrchafiad unwaith eto a chymryd eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe fydd Castell-nedd yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf erioed y tymor nesaf ar ôl ennill gemau ail gyfle’r Cynghrair Europa.