Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd i gefnogwyr pêl-droed Abertawe, a’r clwb 90 munud o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.
Bydd Golwg360 yn rhedeg blog byw yn ystod y gêm, ac yn dilyn hynt criw o gefnogwyr wrth iddynt deithio i Wembley.
17:25 – Dyma ni, mae’r dathlu’n siŵr o barhau am oriau eto ond mae’n bryd i ni dynnu’r blog byw i derfyn. Diolch i bawb fu gyda ni cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm hanesyddol yma i bêl-droed Cymru. Cofiwch ddarllen am antur Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf ar Golwg360.com!
17:24 – Llun o frawd Scott Sinclair ar ysgwyddau cyfaill yn y dorf!
17:20 – Huw Jenkins, Cadeirydd Caerydd “Dwi’n edrych ymlaen i adeiladu ymhellach. Mae cyfle i chwarae’n erbyn Man United a’r holl dimau yma’n ffantastic.”
“Does dim llawer o dimau’n chwarae’r math yma o bêl-droed ym Mhrydain. Rydan ni wedi ceisio sticio i’r ffordd yma o chwarae gyda gwahanol reolwyr. Bydd ein athroniaeth yn parhau y tymor nesaf.”
17:19 – Abertawe’n efelychu Barcelona wrth ddathlu – y chwaraewyr yn taflu eu rheolwr i’r awyr. Byddwch yn ofalus bois – tydi Rogers ddim yn edrych cweit mor ysgafn â Pep Guardiola!
17:18 – ‘Delilah’ yn cael ei chwarae dros yr uchel seinydd bellach.
17:16 – Garry Monk “Roedden ni’n haeddu hyn, mae’r bois i gyd yn haeddu hyn”
Leon Britton – “Mae’n stori wych. Mae Brendan wedi bod yn ardderchog ac mae mynd â ni i’r Uwch Gynghrair yn gamp enfawr.”
17:14 – Llun da o’r awyr o’r stadiwm – un hanner yn hollol wag, a’r llall yn llawn dop o grysau gwyn.
17:05 – Moment ddiddorol wrth i Brendan Rogers gofleidio John Madejski – y cadeirydd a roddodd o sac iddo fel rheolwr Reading!
17:02 – Wrth i chwaraewyr Abertawe ddringo’r grisiau i godi eu gwobr, daw i’r amlwg eu bod nhw’n gwisgo Crysau-T er cof am Beasian Idrizaj, eu cyd-chwaraewr a fu farw ym mis Mai 2010.
16:59 – Cyfweliad gyda Brendan Rogers ar Sky.
“Ro’n i’n credu ei bod yn wych am gyfnodau o’r gêm”
“Ennill y gêm oedd y flaenoriaeth i ni heddiw”
Scott Sinclair oedd seren y gêm.
16:57 – Fel y byddech yn disgwyl, mae dathliadau gwyllt ymysg chwaraewyr a thîm rheoli Abertawe.
Nôl i GMT
94:04- Dyna hi, y chwiban olaf – mae Abertawe yn yr Uwch Gynghrair!
92:30 – Mae cefnogwyr Abertawe’n galw am y chwiban olaf ers dros funud bellach!
90:00 – Pedair munud o amser am anafiadau. Pedair munud rhwng Abertawe a’r Uwch Gynghrair.
88:50 – Ashley Williams wedi ei gythruddo wrth i’r dyfarnwr beidio rhoi cic rydd iddo…ac yn gweld carden felen am ei drafferth.
Joe Allen yn gadael y maes – Luke Moore yn ei le.
86:30 – De Vries yn casglu croesiad…dim brys arno i ryddhau’r bêl erbyn hyn.
Mae eilyddio Brendan Rogers wedi bod yn dda – mae Mark Gower a Darren Pratley wedi bod yn amlwg iaw ers dod i’r cae.
83:30 – Ail Gymro Reading ar y cae rŵan – Hal Robson-Kanu yn dod i’r cae yn lle Andy Griffin.
82:20 – Mae cefnogwyr Abertawe’n codi canu eto wedi cyfnod o dawelwch nerfus, ond mae Reading yn dal i fynd amdani chwarae teg iddyn nhw.
79:33 – GÔL i Abertawe! Hattrick i Sinclair. 4-2 i Abertawe
Sinclair yn cadw’i ben eto o’r smotyn. Doedd Federici ddim yn bell, ond roedd y gic yn rhy dda iddo’i chyrraedd. Dyna ail hattrick gyrfa y chwaraewr sydd ar fenthyg o Chelsea.
78:30 – Cic o’r smotyn arall i Abertawe. Trosedd yn erbyn Borini -Andy Griffin gyda thacl fler ofnadwy.
75:00 – Cymro arall yn ymuno â’r frwydr – Simon Church yn dod i’r maes yn lle Hunt i Reading.
Leon Britton yn gadael maes y gad – Mark Gower yn dod o fainc Abertawe yn ei le.
73:30 – Am gêm, does ’na ddim eiliad i ddal eich gwynt. Cic gornel arall i Reading, ond De Vries yn casglu.
70:30 – O’r diwedd, Abertawe wedi dechrau cadw’r bêl eto wedi cyfnod dan bwysau aruthrol. Maen nhw newydd gal eu cic gornel cyntaf o’r gêm hefyd.
68:00 – Lluniau o gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins yn edrych fel bod pwysau’r bys ar ei ysgwyddau!
66:56 – Ail ddangosiad o gyfle Karacan yn dangos bod Ashley Williams wedi cael cyffyrddiad allweddol ar ei ergyd, a’i gwyro yn erbyn y postyn. Amddiffyn arwrol gan y ddau amddiffynwr canol felly.
65:14 – Cic rydd fer gan Borini, ond ergyd Allen yn cael ei blocio.
61:30 – Mae pwysau mawr ar Abertawe rŵan. Mae Reading wedi cael 13 cic gornel o’i gymharu â 0 i Abertawe! Mae’r Cymry’n ceisio setlo i’w gêm basio ond mae’r gwrthwynebwyr yn hynod egniol wrth roi pwysau ar y chwaraewyr.
59:10 – Reading yn taro’r postyn! Karacan yn anlwcus wrth i’w ergyd o 25 llath guro’r golwr ond adlamu nôl oddi ar y postyn. Aeth y bêl yn syth i draed ymosodwr Reading ond llwyddodd Garry Monk i arbed yn wyrthiol.
58:00 – Mae hon yn troi’n glasur! Mae angen i Abertawe setlo eto fan hyn a dechrau cadw’r bêl yn well.
56:50 – GÔL i Reading! Matt Mills yn penio i’r rhwyd o gic gornel arall. 3-2
56:22 – Cyfle gwych i Kebe ond Tate yn blocio.
55:00 – Dyna gyfraniad olaf Dobbie wrth i Darren Pratley gymryd ei le o’r fainc.
54:30 – Rhediad da i Dobbie a chyfle gwych iddo o wyth llath. Cael ei ddal rhwng dau feddwl – ergydio neu basio’n sgwar i Sinclair. Heibio’r postyn pellaf aeth hi yn y diwedd.
53:04 – Allen yn ei chanol hi eto wrth i’r ddau dîm sgwario yng nghanol cae. Tacl wael ganddo’n cythruddo chwaraewyr Reading ac yn ennill carden felen i’r Cymro.
51:50 – Ail ddangosiad o’r gôl yn dangos mai Joe Allen gafodd y cyffyrddiad olaf ar y bêl wrth i Reading sgorio.
50:00 – Mae gan Abertawe rhywbeth i feddwl amdano rŵan.
48:43 – GÔL i Reading! Hunt yn penio i’r rhwyd o gornel. 3-1
47:50 – Reading yn dechrau gyda phwrpas. Jimmy Kebe ydy’r boi peryglus eto – rediad da yn ennill cic gornel i’w dîm.
45:00 -Yr ail hanner wedi dechrau.
Hanner Amser – Yn ôl gwefan gamblo Paddy Power, mae Abertawe yn 1-250 i ennill dyrchafiad bellach.
Awyrgylch gwych ymysg cefnogwyr Abertawe yn ôl criw cefnogwyr Golwg360.
Jay Tabb, un o’r eilyddion a is-reolwr Reading, Nigel Gibbs wedi gweld cardiau coch yn ystod hanner amser am ddefnyddio iaith anweddus tuag at y dyfarnwr wrth fynd lawr y twnel.
48:00 – Hanner amser. Bydd Brendan Rogers yn hapus iawn gyda’r sefyllfa ond yn siarsio ei dîm i beidio bod yn rhy hyderus – mae 45 munud yn amser hir mewn pêl-droed.
46:40 – De Vries yn gorfod arbed ergyd nerthol Leigertwood – Allen yn colli’r bêl yng nghanol cae, nid am y tro cynataf.
44:30 – Cyfle da i Reading – Shane Long yn methu’r bêl o chwe llath gyda rhwyd wag o’i flaen.
44:00 – Mae ‘Hymns and Arias’ yn atseinio o amgylch Wembley unwaith eto.
43:00 – Mae Abertawe ar dân rŵan. Dim ond tri tîm sydd wedi sgorio deirgwaith yn erbyn Abertawe eleni felly mae’r dasg yn un anferthol i Reading.
41:56 – Cadeirydd Reading, Sir John Madejski, ddim yn edrych yn rhy hapus.
39:33 – GÔL arall i Abertawe! Dobbie yn rhwydo! 3-0 i Abertawe
Rhediad gwych gan Dyer lawr yr asgell dde, yn curo’i ddyn cyn croesi nôl i Dobbie ar ymyl y cwrt cosbi. Rheolaeth arbennig o’r ergyd ar yr hanner foli gan Dobbie, ac mae Abertawe dair ar y blaen.
38:20 – Jobi McAnuff yn gweld carden felen am dacl hwyr ar Leon Britton. Hyn yn crynhoi rhwystredigaeth Reading ar hyn o bryd.
35:35 – ‘Ole, ole’ yw gwaedd cenogwyr Abertawe wrth i’r tîm gadw’r bêl ymysg ei gilydd yng nghanol y cae.
34:30 – Reading yn dechrau edrych yn rhwystredig wrth i McAnuff golli’r bêl i Britton.
32:12 – Cyfle i Abertawe. Sinclair yn achosi trafferthion i’r amddiffyn ar yr asgell chwith cyn tynnu nôl i Borini. Yntau’r troi’n dda ond ei ergyd yn cael ei blocio.
28:27 – Hanner cyfle i gic gornel Reading – Hunt yn penio heibio’r postyn.
25:00 – Am sefyllfa i Abertawe fo ynddi. Y sgôr yn erbyn llif chwarae yr ugain munud cyntaf.
21:50 – GÔL arall i Abertawe! Sinclair eto! 2-0 i Abertawe
Rhediad gwych gan Dobbie ar y dde, cyrraedd y linell gôl a chroesi’n sgwar. Llwyddodd Federici i gael ei law iddo ond dim digon o gysylltiad wrth i’r bêl rowlio i Sinclair yn y postyn pellaf. Chwarae teg i Sinclair, doedd dim panic wrth iddo lithro’r bêl i’r rhwyd o ongl dynn.
20: 30 – GÔL i Abertawe. Sinclair yn rhwydo’n hollol honanfeddiannol. 1-0 i Abertawe
19:30 – cic o’r smotyn i Abertawe! Dyer yn cael ei faglu yn y cwrt – dim dewis gan y dyfarnwr.
19: 10- Rhediad gwych gan Joe Allen, a phas yn rhyddhau Sinclair yn y cwrt cosbi, ond tacl dda arno cyn ergydio.
18:00 – Mae Abertawe’n colli’r bêl yn amal iawn ar hyn o bryd – anarferol iawn i dîm Brendan Rogers.
16:20 – Cyfle arall i Reading, ergyd Karacan cael ei hatal y tro yma, ond Kebe yn allweddol yn y symudiad.
14:46 – Rhediad cryf gan Jimmy Kebe sy’n achosi llawer o drafferth i’r Elyrch. Reading sy’n edrych fwyaf cyfforddus ar hyn o bryd.
11:19 – Hanner cyfle i Borini ond Federici yn y gôl yn casglu. Carden felen i Borini am geisio cipio’r bêl wrth i Federici ei chicio…braidd yn hallt.
8:27 – Abertawe dan bwysau eto ac yn ildio cic gornel, ond yn llwyddo i’w chlirio.
6:10 – Tacl wael ar Sinclair gan Andy Griffin. Chwaraewyr Abertawe’n heidio o gwmpas y dyfarnwr a Griffin yn gweld carden felen.
5:35 – Abertawe’n dechrau setlo mewn i’w gêm basio gyfarwydd.
3:35 – Dros y trawst, siomedig gan Borini.
2:27 – Rhediad da gan Sinclair, cael ei faglu. Cic gosb mewn lle da i Abertawe. Borini?
1:25 – Y cyfle cyntaf i Reading wrth i amddiffyn Abertawe glirio dan bwysau o’i blwch cosbi.
0:46 – Shane Long yn edrych yn siarp wrth roi De Vries dan bwysau.
0:01 – Dyma ni, y gic gyntaf i Reading yng ngêm fwyaf hanes CPD Abertawe.
15:00 – Yn ôl ein criw ni yn y gêm, mae ‘hymns and arias’ yn cael ei lafarganu yn Wembley.
14:59 – Byddwn ni’n newid i gloc y gêm unwaith bydd y gic gyntaf.
14:56 – Y timau ar y cae bellach.
14:53 – Tîm Reading: Federici, Griffin, Mills, Khizanishvili, Harte, Kebe, Karacan, Leigertwood, McAnuff, Long, Hunt
Dau Gymro ar y fainc i Reading – Simon Curch a Hal Robson-Kanu
14:52 – Tîm Abertawe: De Vries, Rangel, Monk, Williams, Tate, Allen, Britton, Dobbie, Sinclair, Dyer, Borini
Dim sypreis yn y tîm felly, yr un unarddeg ddechreuodd yn ail gymal y gêm rownd gyn derfynol.
14:50 – Y farn gyffredinol ymysg y wasg ydy mai Abertawe ydy’r fferfynnau – bydd maes mawr Wembley yn siwtio steil o chwarae Abertawe.
14:46 – Mae criw cefnogwyr Golwg360 yn y stadiwm bellach ac mae’r awyrgylch yn drydanol yno.
14:44 – Cyfweliad â Lamberst ar Sky, dweud ei bod wedi bod yn amser hir i ddisgwyl ers y gêm ddiwethaf ond fod ei dîm yn barod.
14:39 – Mae’n siŵr bod y newyddion am Dave Jones wedi gwneud i Brendan Rogers ddechrau meddwl – flwyddyn yn ôl roedd Jones yn yr union sefyllfa yma…a rŵan mae’n chwilio am swydd newydd.
14:37 – Lluniau o Paul Lambert, rheolwr Reading ar y sgrin – i’w weld wedi ymlacio’n llwyr.
14:35 – Llai na hanner awr i fynd tan y gic gyntaf, a’r cyffro’n cyrraedd uchafbwynt.
12:41 – Y newyddion am ymadawiad Dave Jones fel rheolwr Caerdydd wedi cyrraedd y Torch….ac mae’r hwyliau’n codi eto!
11:56 – Mae croeso i dalmations yn y Torch hefyd!
11:52 – The Torch ar Bridge Road ydy’r dafarn i gefnogwyr yr Elyrch yn ôl ein criw cefnogwyr ni.
11:16 – Daily Mirror – Mae colofnydd y Mirror, Michael Calvin, yn credu bod ysbryd Barcelona i’w weld yn nhîm Abertawe a bod croeso mawr iddyn nhw yn yr Uwch Gynghrair.
The Telegraph – yn honi bod y mwyafrif o gefnogwyr niwtral yn mynd i gefnogi tîm Brendan Rogers heddiw, ac yn eu gweld fel tîm perffaith i gymryd lle Blackpool ar ôl iddyn nhw gwympo o’r Uwch Gynghrair wythnos yn ôl.
Mae’r Telegraph wedi bod yn siarad ag amddiffynwr y Swans, Ashley Williams. Dywed Williams bod y garfan yn “rhannu cawodydd gyda’r cyhoedd ar ôl hyfforddi yn y gampfa” a bod hynny’n arwain at “sawl sgwrs rhfedd”!
11:07 – Reading Journal – Mae clwb Reading wedi annog cefnogwyr i ddefnyddio’r floedd gyfarwydd “Come on URZ” i gefnogi eu tîm. Maen nhw hefyd wedi dewis y gân ‘Don’t Stop Believing’ gan Journey fel cân y tîm.
The Sun – ‘Who wants to be a £90millionaire?’ ydy’r penawd, wrth i Chris Tarrant ddarogan mai Reading fydd yn ennill. Mae Tarrant yn dod o’r dref ac yn mynd a’i deulu i Wembley heddiw.
10:56 – Criw cefnogwyr Golwg360 wedi cyrraedd Wembley! Maen nhw gyda’r cyntaf i gyrraedd o ran y bysys, felly me’n gymharol dawel yno ar hyn o bryd. Er hynny, mae’r haul allan ac mae’r awyrgylch yn braf. Mynd am dro bach a thamaid i fwyta rŵan.
10:53 – Beth mae’r papurau newydd yn ei ddweud am y gêm felly?
The Guardian – yn trafod sefyllfa cefnwr chwith Reading, Ian Harte a chwaraeodd i Leeds yn yr Uwch Gynghrair ac yn Ewrop. Mae Harte wedi cael tymor arbennig i Reading ar ôl arwyddo o Carlisle am bris bach iawn llynedd.
Western Mail – Capten Abertawe, Garry Monk yn benderfynol o chwarae yn yr Uwch Gynghrair eto, wyth mlynedd ar ôl bod yno ddiwethaf gyda Southampton. Yn 32 mlwydd oed, dywed mai hwn yw ei gyfle olaf.
9:44 – Y bws ar fin pasio Reading ar yr M4! Tybed sut mae’r hwyliau yno bore ma?
8:48 – Mae’r criw i gyd wedi cael gafael ar bapurau newydd bellach ar ôl stopio am baned, ac yn darllen yr hyn sydd gan y gohebwyr i ddweud am y gêm.
8:15 – Criw cefnogwyr Golwg360 ar y bws ers dros ddwy awr bellach. Mae’r awyrgylch yn nerfus ond yn dawel hyderus.
6:00 – Y bws ychydig yn hwyr, ond yn gadael o faes parcio archfarchnad adnabyddus.
5:45 – Mae criw cefnogwyr Golwg360 yn dechrau ymgasglu yng Nghaerfyrddin i ddal eu bws i Lundain.