Scott Sinclair, asgellwr Abertawe
Mae asgellwr Abertawe, Scott Sinclair, yn paratoi at gêm fwyaf ei yrfa yfory gan deimlo’n sicr iddo wneud y penderfyniad iawn wrth adael Chelsea yr haf diwethaf.

Yn ystod ei dymor llawn cyntaf i’r Elyrch, mae Sinclair wedi sgorio 24 o goliau, ac wedi cael clod uchel o sawl cyfeiriad am ei chwarae ysbrydoledig.

Fe fydd y gêm derfynol yng ngemau ail gyfle Pencampwriaeth npower yn erbyn Reading yn Wembley yfory yn gyfle arall i’r chwaraewr 22 oed brofi ei ddoniau.

Dywed fod dylanwad rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi bod yn allweddol yn ei benderfyniad i symud i stadiwm Liberty, a’i fod yn llawn cyffro wrth edrych ymlaen at y gêm yfory.

“Dyma fydd uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma, yn sicr,” meddai.

“Fydd dim gwahaniaeth gen i os na fydda’ i’n sgorio – ennill yw’r unig beth dw i’n poeni amdano a mynd i’r Uwch Gynghrair gydag Abertawe. Does dim gwahaniaeth pwy sy’n sgorio. Os byddaf i’n cael gôl a ninnau’n ennill, fe fydd yn fonws.”

Prentisiaeth

Er iddo ymuno â Chelsea pan oedd yn ei arddegau yn 2005, ni chafodd chwarae llawer o gemau i’r clwb, a threuliodd y rhan fwyaf o’i brentisiaeth ar fenthyg i glybiau fel Plymouth, QPR, Charlton, Crystal Palace, Birmingham a Wigan.

Newidiodd ei fywyd yr haf diwethaf, pan gafodd ei ddenu gan Brendan Rodgers i Abertawe am daliad cychwynnol o £500,000 – a all godi i dros £1 miliwn.

“Dw i’n meddwl fy mod i wedi dangos i Chelsea iddyn nhw wneud camgymeriad yn gadael imi fynd mor ifanc,” meddai Scott Sinclair.

“Mae’n anodd iawn torri trwodd i chwarae i Chelsea fel rhywun 20 neu 21 oed – mae’n rhaid ichi fod yn chwaraewr sydd wedi gwneud enw iddo’i hun i fod yn chwarae ar y lefel honno.

“Dw i wedi dysgu llawer yn Chelsea gan iddyn nhw fy helpu fi i weld beth sydd angen imi ei wneud.

“Ond mae angen imi fod yn sefyll ar fy nhraed fy hun yn chwarae bob wythnos a dangos iddyn nhw beth maen nhw wedi’i golli.”