Gary Speed
Mae chwaraewr canol cae Norwich, Owain Tudur Jones yn credu mai Gary Speed yw’r dyn cywir i arwain tîm pêl-droed Cymru.

Mae rheolwr Cymru wedi colli ei ddwy gêm gyntaf wrth y llyw, yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Lloegr.

Ond mae Owain Tudur Jones yn credu mai’r canlyniadau yn yr hir dymor sy’n bwysig ac nid y canlyniadau tymor byr.

“Mae’n hawdd i bobl edrych ar y canlyniadau cyntaf a gwneud mor a mynydd bod Gary Speed heb ennill gêm,” meddai Owain Tudur Jones.

“Wrth gwrs bydd pawb eisiau cael y fuddugoliaeth gyntaf, ond ni fydd gormod o bwyslais arno. Mae yna brosiect hirach yn mynd ‘mlaen gyda Chymru.”

Mae Owain Tudur Jones yn dweud bod gan chwaraewyr rhyngwladol Cymru barch mawr tuag at Gary Speed a ymddangosodd 85 gwaith dros ei wlad.

“Mae ‘na barch i Gary Speed oherwydd yr cyfan y llwyddodd i’w gyflawni pan oedd yn chwarae,” meddai Owain Tudur Jones.

“Does dim llawer o amser wedi mynd heibio ers iddo roi’r gorau i chwarae ac roedden ni’n mwynhau ei wylio yn chwarae i Gymru ac yn yr Uwch Gynghrair.

“Mae’n gwybod llawer iawn am y gêm. Pan mae’n siarad, mae pawb arall yn gwrando.”

Mae Owain Tudur Jones yn credu bod digon o dalent ifanc yng ngharfan Cymru i sicrhau llwyddiant i’r tîm dros y blynyddoedd nesaf.