Kevin McNaughton
Bydd rhaid i’r Adar Glas bwyllo os ydyn nhw am faeddu Reading yn ail gymal rownd cyn derfynol y gemau ail gyfle, meddai’r amddiffynnwr Kevin McNaughton.

Fe orffennodd y cymal cyntaf yn ddi-sgôr ac mae’r Albanwr wedi cyfaddef bod y chwaraewyr yn gwybod y bydd curo Reading yn dasg anodd.

“Mae gan Reading rhai o’r ymosodwyr gorau yn yr adran ac roedden nhw wedi chwarae’n dda ddydd Gwener ddiwethaf,” meddai Kevin McNaughton.

“Roedd rhaid gweithio’n galed i sicrhau gêm gyfartal. Ond fe fydden ni wedi cymryd y canlyniad yna cyn y gêm.

“Fe fydd rhaid i ni beidio â chynhyrfu yn yr ail gymal. Rwy’n credu bod y ddau dîm ychydig yn nerfus nos Wener, a doedden ni he chwarae ar ein gorau.

“Y tîm sydd lleiaf nerfus fydd gyda’r cyfle gorau i fynd ymlaen i’r rownd derfynol. Mae’r chwaraewyr i gyd yn hyderus iawn.”

Dywedodd Kevin McNaughton ei fod yn credu y bydd y profiad sydd gan Gaerdydd yn y gemau ail gyfle o gymorth i’r Adar Glas.

“Rwy’n credu bod rhaid dysgu o’r gemau y llynedd a rhoi hynny ar waith heno. Mae gennym ni’r profiad a gwell chwaraewyr eleni a bydd hynny o gymorth i ni.”