Brendan Rodgers yn dathlu
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud ei fod yn falch o’i dim ar ôl iddynt gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Maeddodd yr Elyrch Nottingham Forest 3 – 1 yn Stadiwm Liberty neithiwr.

Bydd Abertawe yn wynebu naill ai Caerdydd neu Reading yn y rownd derfynol yn Wembley ar 30 Mai.

Pan sgoriodd Darren Pratley trydedd gôl yr Elyrch fe ddathlodd Rodgers drwy redeg i lawr yr ystlys yn steil a Jose Mourinho.

Fe gyfaddefodd y gŵr o Ogledd Iwerddon bod emosiwn yr achlysur wedi mynd yn drech nag ef a thalodd teyrnged i ymdrechion ei chwaraewyr.

“Rydw i mor falch o’r clwb ac yn enwedig y chwaraewyr. Roedd yn berfformiad arwrol dros y ddau gymal,” meddai Brendan Rodgers.

“Roedd yn gêm wych ac o ystyried safon y ddau dîm roedd yn debycach i rownd derfynol.

“Mae’n rhaid canmol Nottingham Forest am ddod yma a chwarae fel yna.

“Ond rwy’n credu mai chwaraewyr a chefnogwyr Abertawe sy’n haeddu’r ganmoliaeth fwyaf am eu bod nhw mor arwrol.”

Abertawe v Caerdydd?

Dywedodd Brendan Rodgers nad oedd yn pryderu ynglŷn â phwy fyddai Abertawe yn ei wynebu yn y rownd derfynol.

Mae Rodgers yn cydnabod y byddai rownd derfynol rhwng Abertawe a Chaerdydd yn “anhygoel” ond bod Reading yn agos iawn at ei galon hefyd.

Roedd Rodgers yn chwarae i Reading pan fu’n rhaid iddo ymddeol yn 20 oed. , ond fe gafodd gyfle gan y clwb i fod yn hyfforddwr gyda’r academi yn 1995.

Fe gafodd cyfnod aflwyddiannus yn rheolwr y clwb yn 2009.

“Mae Reading yn glwb sy’n golygu llawer iawn i mi. Dyna le y cefais i fy nghyfle cyntaf,” meddai.

“Ond yn amlwg fe fyddai Abertawe yn erbyn Caerdydd yn y rownd derfynol yn anhygoel.”