Ryan Giggs - yn dal i fynd
Roedd rheolwr Manchester United yn llawn canmoliaeth i’r Cymro, Ryan Giggs, ar ôl iddo sgorio’r gôl gynta’ i fynd â thîm Old Trafford o fewn cyrraedd i rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Giggs a sgoriodd gynta’ wrth i United gael dwy gôl o fewn tri munud yn erbyn Schalke a oedd heb eu curo gartre’ y tymor yma.

“Does dim golwg ei fod yn gwanhau o gwbl,” meddai Syr Alex Ferguson. “Mae wedi bod ar y brig ers amser hir a does dim arwydd ei fod yn llithro.”

Ond fe allai’r Cymro fod wedi sgorio o leia’ dair arall, gyda’r gôlgeidwad, Manuel Neuer, yn arbed sawl tro ac yntau’n methu cyfle da ar ei droed wanaf, y dde.

Meddai Giggs

“Fe wnaethon ni greu digon o gyfleoedd i fod bedair neu bump ar y blaen ar hanner amser,” meddai Giggs ei hun wrth wefan y clwb.

“Cyn y gêm, fe fydden ni wedi bod yn hapus gyda 2-0 ond r’yn ni ychydig yn siomedig mai dim ond dwy oedd hi.

“Ro’n i’n teimlo os oedden ni’n dal i greu cyfleoedd y byddai un yn mynd i mewn ac y byddwn i’n cael un ar fy nhroed chwith, gobeithio, yn hytrach na’r dde.”