Danny Gabbidon
Mae amddiffynnwr West Ham, Danny Gabbidon, yn wynebu cael ei ddisgyblu gan Gymdeithas Pêl-Droed Lloegr ar ôl ymosod yn eiriol ar gefnogwyr y clwb ar Twitter.
Roedd unigolion wedi gadael negeseuon ar dudalen Twitter y Cymro ar ôl i West Ham golli 2-1 yn erbyn Aston Villa dros y penwythnos.
Fe regodd Gabbidon ar ei gyfrif a dweud na fyddai byth yn defnyddio Twitter eto. Ers hynny mae ei gyfrif wedi dod i ben.
Ond mae cyn-amddiffynnwr Caerdydd yn wynebu cael ei ddisgyblu yn yr un modd a’i gyd-chwaraewr Carlton Cole yn dilyn ei sylwadau am fewnfudo ar y safle yn ystod gêm Lloegr yn erbyn Ghana.
Roedd West Ham eisoes wedi rhybuddio eu chwaraewyr i fod yn fwy gofalus wrth ddefnydd Twitter, yn dilyn sylwadau Cole.