Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud y bydd eu buddugoliaeth yn erbyn Norwich dros y penwythnos yn mynd yn wastraff os na fyddwn nhw’n sicrhau canlyniad yn erbyn Hull City heno.

Fe fydd yr Elyrch yn wynebu tîm sydd heb golli oddi cartref am bymtheg gêm yn olynol, ac mae’r rheolwr yn ymwybodol o’r her sy’n wynebu’r chwaraewyr.

“Roedd yn fuddugoliaeth wych yn erbyn Norwich, ond os na allwn ni guro Hull fe fydd y canlyniad blaenorol yn amherthnasol,” meddai Brendan Rodgers.

“Roedd pobl yn meddwl mai’r gêm yn erbyn Norwich oedd yr un mawr, ond mae gan Hull record oddi cartref sydd hyd yn oed yn well.

“Mae ganddyn nhw dîm profiadol ac maen nhw wedi prynu cwpl o ymosodwyr gostiodd £1 miliwn ym mis Ionawr, felly mae’n mynd i fod yn anodd.

“Mae rheolwr Hull, Nigel Pearson, wedi gwneud job dda o greu tîm cystadleuol mewn amser byr.

“R’yn ni’n ymwybodol y bydd angen i ni fod ar ein gorau unwaith eto er mwyn sicrhau’r pwyntiau llawn. Ond mae hyder y tîm yn uchel.”