Cae Ffordd Farrar
Mae cyfnod Bangor yn Stadiwm Ffordd Ffarrar yn dod i ben ar ôl i Gyngor Gwynedd ganiatáu datblygu archfarchnad ar y safle.

Roedd cwmni datblygu tir Morbaine wedi gwneud cais arall ar ran Deiniol Development am yr hawl i godi archfarchnad Asda ar y tir, ar ôl i’r cyngor ofyn am sawl newid i’r cynllun gwreiddiol.

Mae’r clwb wedi bod yn chwilio am gartref newydd ers deng mlynedd ar ôl chwarae ar Ffordd Ffarrar ers yr 1920au.

Fe fydd y penderfyniad yma’n galluogi’r clwb i sefydlu cartref newydd yn Nantporth ar lannau’r Afon Menai.

Mae cadeirydd Bangor, Dilwyn Jones, wedi dweud bod y clwb o Uwch Gynghrair Cymru yn cefnogi’r cynlluniau.

“R’yn ni’n cefnogi’r cais ac mae’r clwb yn canolbwyntio ar Nantporth nawr. R’yn ni am i’r stadiwm newydd fod ar gael i’r gymuned gyfan ei ddefnyddio,” meddai Dilwyn Jones.