Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud bod angen i’w glwb gynnal eu momentwm ar ôl curo Doncaster dros y penwythnos.

Mae’r fuddugoliaeth wedi symud yr Adar Glas o fewn pwynt i Norwich sy’n hawlio’r ail safle hollbwysig yn y Bencampwriaeth.

Pe bai Caerdydd yn gallu cymryd eu lle nhw cyn diwedd y tymor fe fyddwn nhw’n cael dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.

“D’yn ni ddim yn mynd i roi’r gorau i frwydro am le yn yr Uwch Gynghrair,” meddai Dave Jones. “R’yn ni’n gwneud ein gorau glas ac mae’n rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd.

“Mae gennym ni gêm anodd iawn yn erbyn Sheffield Utd nos Fawrth, a gêm arall ddydd Sadwrn.

“Felly mae’n rhaid i ni gadw’r chwaraewyr yn holliach a sicrhau bod pawb sydd ynghlwm â’r clwb yn canolbwyntio.

“Byddai cael Chopra, Parkin a Hudson yn ôl cyn gynted â phosib yn hwb mawr i ni.  Fe fydden ni ‘nôl i’n cryfder llawn wedyn.”

Canmol Koumas

Mae Dave Jones wedi canmol cyfraniad Jason Koumas ar ôl i’r Cymro ysbrydoli’r Adar Glas i fuddugoliaeth dros y penwythnos.

Fe sgoriodd Koumas ddwy gôl ar ôl 90 munud er mwyn sicrhau buddugoliaeth 3-1 yn Stadiwm Keepmoat.

“Mae wedi bod ar yr ystlys am gyfnod hir ond mae o wedi bod yn allweddol i ni,” meddai rheolwr Caerdydd.

“Dros y deg diwrnod diweddaraf mae wedi bod yn wych. Mae wedi gweithio’n galed iawn i gael dod yn ôl i’r tîm ac roedd ei gic rydd yn gôl wych.”