Cei Connah 1–1 Llandudno    
                                                         

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Landudno ymweld â Stadiwm Glannau Dyfrdwy i wynebu Cei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Rhoddodd Nathan Woolfe y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Danny Hughes gipio pwynt i’r ymwelyr wedi’r egwyl.

Dechreuodd Cei Connah yn dda ac roedd angen arbediad gwych gan Dave Roberts i atal Callum Morris rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen wedi pedwar munud.

Cafodd Hughes gyfle yn y pen arall yn fuan wedyn ond roedd John Danby yr un mor effro yn y gôl i Gei Connah.

Fe ddaeth y gôl agoriadol i’r tîm cartref wedi deg munud, Nathan Woolfe yn penio i gefn y rhwyd yn dilyn rhediad a chroesiad da gan Ryan Wignall ar y dde.

Y Nomadaid a gafodd y gorau o weddill yr hanner cyntaf hefyd ond bu rhaid iddynt fodloni ar un gôl.

Roedd hi’n stori wahanol iawn wedi’r egwyl gyda Chei Connah yn amddiffyn yn ddyfnach a Llandudno’n ymddangos yn well tîm.

Doedd fawr o syndod felly pan unionodd Hughes i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r ail hanner gydag ergyd wych i’r gornel isaf o bum llath ar hugain yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

Cafodd y ddau dîm eu cyfnodau wedi hynny ond prin a oedd cyfleoedd clir yn y ddau ben wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae’r canlyniad yn gadael Cei Connah yn drydydd a Llandudno yn chweched yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Pearson, Edwards, Kearney, Horan (Phillips 76’), Harrison, Wignall, Morris, Wilde (Simpson 86’), Woolfe (Mathias Bakare 45’), Owen

Gôl: Woolfe 11’

Cerdyn Melyn: Horan 8’

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Taylor, Joyce, Shaw, Hughes, Marc Williams, Edwards, Hart, Mike Williams, Dix, Jones (Thomas 87’)

Gôl: Hughes 69’

Cerdyn Melyn: Dix 34’

.

Torf: 154