Middlesbrough 0–1 Caerdydd     
                                                 

Sgoriodd Joe Ralls gic o’r smotyn hwyr wrth i Gaerdydd gipio’r tri phwynt yn erbyn Middlesbrough yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Ymdrech Ralls o ddeuddeg llath chwe munud o ddiwedd y naw deg a oedd unig gôl y gêm yn Stadiwm Riverside.

Prin iawn a oedd cyfleoedd clir yn y ddau ben yn ystod 84 munud agoriadol y gêm hon ac roedd hi’n amlwg y byddai un gôl yn ddigon i’w hennill hi.

Yn ffodus i’r Adar Gleision, fe ddaeth y cyfle euraidd hwnnw iddynt hwy wedi i Adama Traore lorio Nathaniel Mendez-Laing yn y cwrt cosbi.

Ralls a gymerodd y gic gan guro’r Gwyddel, Darren Randolph, o ddeuddeg llath i sicrhau’r tri phwynt i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Middlesbrough

Tîm: Randolph, Christie, Ayala, Gibson, Fabio, Downing (Traore 78’), Howson, Braithwaite, Leadbitter, Assombalonga, Fletcher (Bamford 67’)

Cardiau Melyn: Gibson 20’, Leadbitter 66’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Morrison, Ecuele-Manga, Bamba, Peltier, Bryson, Ralls, Bennett, Mendez-Laing (Paterson 89’), Ward (Bogle 90’), Hoilett

Gôl: Ralls [c.o.s.] 84’

Cardiau Melyn: Bennett 39’, Bamba 59’

.

Torf: 24,806