Cwpan Irn-Bru
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd wyth olaf Cwpan Irn-Bru, yn dilyn eu buddugoliaeth o 4-0 dros Elgin yn Neuadd y Parc prynhawn dydd Sadwrn.

Gyda phum newid o’r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth o 5-1 yn Y Fflint nos Fawrth yng Nghwpan Nathaniel MG – aeth Y Seintiau ar y blaen wedi chwarter awr pan rwydodd Greg Draper yn gampus gan guro Marc Waters ar ei bostyn agosaf.

Sgoriodd Aeron Edwards (40m) a Jamie Mullan (44m) hefyd cyn yr egwyl a dim ond un tîm oedd yn mynd i ennill wedi hynny.
Rhwydodd Draper ei ail o’r prynhawn o chwe llath wedi awr o chwarae gan gadarnhau’r fuddugoliaeth swmpus hon yn y broses.

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer y gemau yn y chwarteri yng Nghaeredin ddydd Mawrth.

Bydd y Seintiau yn teithio i gwrdd â Chei Connah nos Fawrth yn yr Uwchgynghrair.