Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae carfan Cymru wrthi’n paratoi heddiw ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Mi fydd y gic gyntaf am 7.45yh, ac mi allai buddugoliaeth i Gymru fod yn gyfle iddyn nhw chwarae yn un o’r gemau ail-gyfle yn rowndiau Cwpan y Byd ym mis Tachwedd.

Ar hyn o bryd mae Serbia ar frig Grŵp D gyda Chymru bwynt y tu ôl iddyn nhw, ac Iwerddon ddau bwynt y tu ôl.

Gallai’r enillwyr heno orffen yn ail yn y grŵp, ac mi fyddai hynny’n gyfle i chwarae yn un o’r gemau ail-gyfle.

“Mae mor fawr â dim byd yr ydyn ni wedi bod yn rhan ohono o’r blaen, ond y peth da yw ein bod wedi bod yma o’r blaen ac mae gennym ni’r profiad hwnnw,” meddai Chris Coleman, hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru.

“Mae’r ddau set o chwaraewyr yn eithaf tebyg, felly gallaf weld y bydd llawer o gyswllt ac y bydd yn gyffrous iawn.”

Mi fydd y gêm yn cael ei darlledu ar S4C o 7.15yh ymlaen.