Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n mynd am driphwynt yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Lun, yn ôl y rheolwr Chris Coleman.
Ond ar ôl curo Georgia o 1-0 nos Wener, fe allai gêm gyfartal – ac un pwynt – fod yn ddigon i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Rwsia y flwyddyn nesaf.
Ar ôl i Serbia golli o 3-2 yn erbyn Awstria, gallai Cymru orffen ar frig y tabl pe baen nhw’n curo Gweriniaeth Iwerddon a Serbia yn colli neu’n cael gêm gyfartal yn erbyn Georgia.
Ond hyd yn oed pe bai Serbia yn ennill, mae Cymru’n debygol o gael lle yn y gemau ail gyfle fis nesaf pe baen nhw’n curo Gweriniaeth Iwerddon.
Mynd am fuddugoliaeth fydd Cymru, serch hynny, yn ôl Chris Coleman.
“Ry’n ni ar dir peryglus os awn ni i mewn gyda chynllun o geisio amsugno’r pwysau am 90 munud.
“Ry’n ni’n rhy dda i wneud hynny. Fe awn ni i ymosod, sgorio goliau, rhaid i ni wneud hynny – dyna ein cryfder ni.
“Fe allai pwynt fod yn iawn, ond fe awn ni am driphwynt.”
Tom Lawrence yn serennu
Er yr holl sôn am Ben Woodburn cyn y gêm, Tom Lawrence oedd y seren gyda’i gôl gyntaf dros Gymru.
Ac fe ddywedodd ei fod yn haeddu canmoliaeth am ei berfformiadau blaenorol, er i Ben Woodburn ddwyn y sylw yn y penawdau.
Dim Gareth Bale
Fe fu’n rhaid i Gymru ymdopi heb Gareth Bale am y tro cyntaf ers 11 o gemau.
Fydd e ddim ar gael ychwaith ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Lun, ond y gobaith yw y gallai ddychwelyd pe bai Cymru’n gorfod chwarae gêm ail gyfle.
“Dydy’r pedair blynedd diwethaf ddim wedi bod am Gareth yn unig,” meddai Chris Coleman.
“Mae e’n bwysig dros ben i ni ond dydyn ni ddim wedi’i gael e, Joe Allen nac Aaron Ramsey ran fwya’r amser.
“Dim ond dair gwaith ers [y gêm yn erbyn] Gwlad Belg ry’n ni wedi’u cael nhw i gyd ar y cae.
“Ond mae gwaith gyda ni i’w wneud, mae ein tîm ni jyst yn bwrw ati ac yn ceisio croesi’r llinell.”