Ben Woodburn
Ni fydd y llanc ifanc sgoriodd gôl fythgofiadwy a chreu un arall yn nwy gêm ddiwethaf Cymru, yn cychwyn y gêm fawr oddi cartref yn Georgia.

Mae Ben Woodburn, a rwydodd mor gofiadwy yn erbyn Awstria a chreu’r gôl gyntaf hollbwysig yn erbyn Moldofa, ar y fainc.

Mae’r hyfforddwr Chris Coleman wedi dewis cychwyn y gêm gyda thîm profiadol sy’n cynnwys Joe Ledley yng nghanol y cae a Sam Vokes i arwain yr ymosod.

Y tîm: Hennessey, Gunter, Davies, A Williams, Chester, Allen, Ledley, Ramsey, King, Lawrence, Vokes.

Eilyddion: Maxwell, Ward, Ampadu, Lockyer, Taylor, Edwards, J Williams, Brooks, Woodburn, Hedges, Robson-Kanu, Bradshaw.

Georgia v Cymru yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am bump.