Fe fydd tîm pêl-droed Caerfyrddin yn chwarae eu gêm gyntaf ar eu cae 3G newydd y prynhawn yma.

Mae’r cae newydd wedi cael ei orffen mewn da bryd i weld yr Hen Aur yn herio’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd.

Tymor diwethaf, rhoddodd Caerfyrddin stop ar rediad di-guro gwych Y Seintiau Newydd ar ddechrau’r tymor. Bydd eu rheolwr Mark Aizlewood yn gobeithio am yr un canlyniad y tro yma.

Chwarae gartref

Mae Caerfyrddin wedi cael dechrau siomedig i’r tymor yn chwarae oddi cartref ond fe wnaethon nhw roi cweir i’r Bala yn ddiweddar ar Faes Tegid, felly bydd Mark Aizlewood yn gobeithio dringo’r tabl wrth chwarae gartref.

Caerfyrddin yw’r nawfed tîm o’r deuddeg yn yr Uwch gynghrair i newid i faes 3G, ac mae’r clwb yn gobeithio y bydd  y gymuned leol yn manteisio ar y cae sydd wedi costio £500,000.

“Mae wedi bod yn gyfnod hir o drefnu a pharatoi am y diwrnod hwn,” meddai cyfarwyddwr y clwb, Gareth Jones wrth golwg360.

Mae’r cynllun yn fwy na phêl  droed, mae’r maes yn allweddol i’r gymuned. Bydd ysgolion a cholegau yn defnyddio’r cae. Bydd y cae yn cynnal gemau i blant difreintiedig a’r anabl.

“Mae’r cae i fod i bara am tua chwe blynedd, ac mae cronfa wrth gefn yn ei lle i neud yn sicr fod e’n talu amdano’i hun.  Mae’r cae i safon Ewrop ac mae’n wych cael gwybod y bydd plant yr ardal yn cael chwarae ar gae fuasai tîm Cymru yn cael chwarae arno.

“Mae angen £25,000 y flwyddyn i gynnal a chadw’r cae, felly bydd y clwb yn gobeithio llogi’r cae i ddigwyddiadau i’w wneud yn gynaliadwy yn y tymor hir.”

Elwa o grantiau

“Mae naw clwb yn y gynghrair wedi elwa o grantiau gan Gymdeithas pêl droed Cymru,” meddai Ysgrifennydd yr Uwchgynghrair, Gwyn Derfel, wrth Golwg360.

“Rydan wedi gweld gwerth y caeau i’r clybiau eraill yn barod, gyda chymunedau yn defnyddio’r caeau, gemau ddim yn cael eu gohirio, a’r rheiny sydd ddim â chaeau 3G rydan ni fel Cymdeithas wedi rhoi cymorth iddyn nhw godi safon eu caeau. Mae pawb yn derbyn bod cae Bangor yn wych ac mae cae Prestatyn ar hyn o bryd mewn safon wych.”

Canlyniad neithiwr

Bala 1 – 1 Aberystwyth

Dydd Sadwrn

Bangor – Y Barri

Caerfyrddin – Seintiau Newydd

Drenewydd – Cei Connah

Llandudno – Derwyddon Cefn

Met Caerdydd – Prestatyn