Mae pumed rownd Uwchgynhrair Cymru’r penwythnos hwn gyda thair gêm heno a thair yfory ac fe  
fydd Llandudno yn gobeithio parhau â’u dechrau da i’r tymor. Mae’r rheolwr Alan Morgan wedi cael y fraint o fod yn rheolwr y mis am Awst.

Llandudno v Y Barri

Llandudno sydd ar y brig ac mi fyddan nhw yn edrych ymlaen at groesawu’r Barri i Barc Maesdu, yn enwedig ar ôl i’w rheolwr Alan Morgan gael ei ddewis yn rheolwr y mis am Awst.

Y gêm hon fydd y gyntaf rhwng y ddau glwb yn yr Uwchgyngrair, ond mi wnaethon nhw gwrdd yn Rhagfyr 1994 mewn gêm Cwpan Cymru. Enillodd Llandudno ar ôl gêm ailchwarae i sicrhau gêm yn  y bumed rownd  yn erbyn Caerdydd.

Hyd yn hyn mae Llandudno wedi ennill tair a chael un gêm gyfartal. Mae’r Barri yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor wythnos ddiwethaf yn erbyn y Drenewydd 2-0.

Bangor v Cei Connah

Heno bydd Bangor yn herio tîm Andy Morrison, Cei Connah, yn Nantporth. Trydedd yn erbyn pumed yw’r gêm hon gyda’r ddau glwb ar naw pwynt ac wythnos yma mae Cei Connah wedi arwyddo’r  ymosodwr Melford Simpson. Roedd Andy Morrison yn teimlo bod ei dîm yn weddol ysgafn yn ymosod ac angen rhywun corfforol i helpu Mike Wilde yn y llinell flaen.

Derwyddon Cefn v Prestatyn

Ar  Y Graig bydd Derwyddon Cefn yn croesawu Prestatyn.  Roedd pwynt wythnos ddiwethaf yn Llandudno yn bwynt  da i Brestatyn, tîm oedd yn yr Huws Gray Alliance tymor diwethaf. O ran y Derwyddon, bydd eu rheolwr Huw Griffiths yn disgwyl ymateb ar ôl colli 4-0 i’r Seintiau Newydd.

Met Caerdydd v Seintiau Newydd

Yn y brifddinas bydd y Seintiau yn disgwyl  parhau â’r rhediad o dair buddugoliaeth yn olynol. Ond bydd myfyrwyr Met Caerdydd  wrth eu boddau ar  ôl  clywed bod eu hymosodwr Adam Roscrow wedi sgwpio chwaraewr y mis am Awst . Mae wedi sgorio tair gôl i helpu’r Met i’r ail safle yn y tabl.

Bala v Caerfyrddin

Ar Faes Tegid fydd y Bala yn croesawu’r hen aur o Gaerfyrddin. Dyma gyfle gwych i’r Bala gau’r bwlch ar y rheiny sydd ar dop y tabl. Mae Caerfyrddin wedi cael dechrau gwael i’r tymor gan golli pedair gêm.

Drenewydd v Aberystwyth

Bydd dau dîm sydd wedi bod yn rhan o’r Uwchgynghrair ers eu dechreuad yn 1992 yn cwrdd ar Barc Latham yfory.

Mae angen i Aberystwyth gael canlyniad positif ar ôl tair colled yn olynol ac un gêm gyfartal yn eu gêm agoriadol yn erbyn y Barri.

Bydd Jamie Reed ymosodwr Y Drenewydd yn sicr eisiau creu argraff yn chwarae yn erbyn un o’i gyn- clybiau – sgoriodd saith gôl mewn 17 o gemau i Aberystwyth yn nhymor 2015/16 pan ar fenthyg o’r Seintiau Newydd.

Mae capten y Drenewydd Craig Williams hefyd wedi chwarae i Aber am ddau dymor cyn ymuno yn 2016.