Yr arwr - Ben Woodburn (Llun gwefan Clwb Lerpwl)
Fe lwyddodd Cymru i gadw eu gobeithion yn fyw i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia, diolch i ddyn ifanc a allai chwarae i Loegr.
Fe sgoriodd Ben Woodford o Lerpwl yn ei gêm gynta’ gydag un o’i gyffyrddiadau cynta’ a sicrhau bod Cymru’n aros o fewn cyrraedd i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon ar frig eu grŵp.
Ond roedd yna glod mawr i’r tîm rheoli hefyd, am newid patrwm y chwarae ar yr hanner a newid balans y gêm yn llwyr.
Hanner cynta’ siomedi
Roedd yr hanner cynta’n siomedig iawn gyda Chymru’n methu â rhoi mwy na dwy neu dair pas at ei gilydd ac Awstria’n bygwth yn gyson trwy Arnautovic ac Alaba.
Fe ddylai Arnautovic – a sgoriodd ddwy i Awstria yn erbyn Cymru y tro diwetha’ – fod wedi eu rhoi nhw ar y blaen ond fe fethodd gyfle hawdd o wyth llath.
Yn y cyfamser, dim ond mewn fflachiadau yr oedd Cymru’n disgleirio ac fe fu rhaid i Dave Edwards yn arbennig, ac Ashley Williams a James Chester wneud sawl tacl bwysig.
Newid byd – yr ail hanner
Fe newidiodd y cyfan yn yr ail hanner wrth i Gymru newid eu siâp a rhoi mwy o gadernid yng nghanol y cae.
Fe ddaeth y newid arall tyngedfennol ar ôl 69 munud pan ddaeth Ben Woodburn a Hal Robson-Kanu ymlaen yn lle Tom Lawrence – a gafodd gêm addawol – a Sam Vokes yn y blaen.
Bum munud yn ddiweddarach, fe fethodd Awstria â chlirio ar ymyl eu bocs ac fe syrthiodd y bêl i Woodburn.
Fe reolodd mewn un symudiad, symud i’r ochr efo ail a tharo’r bêl efo’r trydydd symudiad i gornel y rhwyd o 27 llath.
Roedd y goflaid gan Gareth Bale ar ôl y gôl yn dweud y cyfan.
Ar ôl hynny, fe allai Cymru fod wedi sgorio un neu ddwy arall a’r cyfan oedd gan arwr y dydd i’w ddweud oedd fod y dyrfa’n wych a bod angen meddwl am y gêm nesa;.
Y gêm nesa’
Fe fydd honno oddi cartre’ yn erbyn Moldova. Os bydd Cymru’n ennill, fe fydd llygaid pawb ar y gêm fawr arall – rhwng Serbia a Gweriniaeth Iwerddon.
Dim ond dau pwynt ar y blaen i Gymru yw’r Gwyddelod.