Paul Clement, prif hyfforddwr Abertawe
Fe allai cefnogwyr Abertawe weld Roque Mesa yng nghanol y cae am y tro cyntaf heddiw, wrth i’r Elyrch groesawu Man U i Stadiwm Liberty (12.30pm).
Ar ôl symud o Las Palmas am £11 miliwn dros yr haf, fe fu’n rhaid i’r Sbaenwr fodloni ar le ar y fainc ar gyfer y gêm yn Southampton ar ddiwrnod cynta’r tymor y penwythnos diwethaf.
Ond ei gyfrifoldeb cyntaf ar y cae yng nghrys gwyn yr Elyrch fydd cadw trefn ar Paul Pogba a Nemanja Matic, dau o sêr yr ymwelwyr.
Roedd Pogba ymhlith y sgorwyr wrth i Man U drechu West Ham yn Old Trafford yr wythnos ddiwethaf. Ychwanegwch at hynny yr ymosodwr Romelu Lukaku, a sgoriodd ddwy gôl yn y gêm honno, ac mae cryn her o flaen yr Elyrch.
Dywedodd prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement: “Fyddai gen i ddim amheuaeth ynghylch rhoi Roque i mewn [i’r tîm], dw i yn ystyried gwneud hynny.
“Dw i’n credu y bydd pawb yn ei weld e ar y cae yn fuan oherwydd mae e’n dechnegol iawn. Mae e’n nodweddiadol o chwaraewyr Abertawe, ac yntau mor hyderus ar y bêl.”
Man U – pencampwyr posib?
Er mai mis Awst yw hi a hon yn ail gêm y tymor, mae Paul Clement yn credu y gall Man U ennill yr Uwch Gynghrair eleni.
Mae hanes – a record y rheolwr Jose Mourinho – yn ategu hynny. Mae’r gŵr o Bortiwgal wedi ennill y gynghrair yn ei ail dymor gyda phob un o’i glybiau blaenorol – Chelsea, Porto, Inter Milan a Real Madrid.
Ac fe allai ei chwaraewyr newydd, Romelu Lukaku a Nemanja Matic fod yn allweddol i gynnal y record honno, yn ôl Paul Clement.
“Mae Romelu Lukaku a Matic yn bwerus ac maen nhw’n edrych mor gryf, yn enwedig yng nghanol y cae ac ym mlaen y cae.
“Maen nhw’n gryf yn gwrthymosod ac mae ganddyn nhw ddisgyblaeth yn amddiffynnol.”
Ymosod Abertawe
Tra bod blaenwyr Man U yn gryf, fe fydd Abertawe’n gobeithio am berfformiad mwy cadarnhaol gan eu blaenwyr nhw.
Methon nhw â bwrw’r nod unwaith yn erbyn Southampton yr wythnos ddiwethaf, a hynny yn absenoldeb Fernando Llorente.
Torrodd y Sbaenwr ei fraich dros yr haf, a fydd e ddim ar gael eto heddiw, sy’n golygu mai’r ymosodwr ifanc Tammy Abraham sy’n debygol o arwain yn y blaen unwaith eto, ochr yn ochr â Jordan Ayew.
Record dda yn erbyn Man U
Yn oes yr Uwch Gynghrair, mae’r Elyrch wedi curo Man U ddwywaith yn Stadiwm Liberty – ond daeth y ddwy fuddugoliaeth hynny yn 2015 – unwaith yn ystod tymor 2014-15 a’r tro arall yn nhymor 2015-16.
Mae’r record honno, meddai Paul Clement, yn rhoi hyder iddo fe – er y byddan nhw heb Gylfi Sigurdsson, sydd wedi symud i Everton erbyn hyn.
“Mae Man U wedi dechrau’n dda ac wedi dod â chwaraewyr da i mewn, ond ry’n ni’n hyderus oherwydd yr hyn wnaethon ni’r tymor diwethaf. Mae ein record ni yn eu herbyn nhw’n addawol.
“Dw i’n credu bod y chwaraewyr yn teimlo’n dda yn y Liberty ar hyn o bryd. Dyna’r fantais fawr o fod gartref. Mae gyda chi rym y dorf y tu ôl i chi.”